En

City & Guilds Diploma NVQ mewn Trin Gwallt (Oedolion) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn ar gyfer unrhyw un sydd eisiau datblygu eu hastudiaethau neu yrfa trin gwallt.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...oes gennych ddiddordeb mewn parhau â'ch astudiaethau trin gwallt

... ydych yn driniwr gwallt sydd eisiau datblygu eich sgiliau a thechnegau

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn dysgu am y canlynol:

  • ymgynghoriadau â chleient
  • golchi gwalltiau
  • chwythsychu
  • setio gwallt
  • cyrlio parhaol
  • manwerthu
  • sgiliau derbynfa
  • triniaethau
  • torri
  • lliwio

A byddwch yn dysgu'r uchod drwy:

  • Ddosbarthiadau theori
  • Gweithdai ymarferol
  • Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg
  • Sesiynau masnachol
  • Arddangosiadau
  • Ymarferion chwarae rôl
  • Gwaith grwp
  • Lleoliad gwaith

Cewch eich asesu drwy:

  • Asesiadau/aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig
  • Cyflwyniadau ac arddangosiadau
  • Portffolios gwaith
  • Perfformiad ac arsylwadau

Drwy astudio'r cwrs hwn, byddwch yn cyflawni:

    • Cymhwyster Trin Gwallt Lefel 2

Gofynion Mynediad

Bydd angen i chi fod â Lefel 1 mewn Trin Gwallt fel cymhwyster mynediad ar gyfer y cwrs hwn neu brofiad cyffelyb mewn trin gwallt.

Gwybodaeth Ychwanegol

Fel amod o’ch lle ar y cwrs hwn, bydd disgwyl i chi brynu'r offer priodol oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Y gost am hyn yw tua £82-91, yn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant.

I adlewyrchu disgwyliadau'r diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent y gellir ei harchebu oddi wrth ein cyflenwr cymeradwy. Gellir cael manylion ar sut i archebu eich gwisg salon am ddim, a setiau ychwanegol, yn ogystal ag opsiynau talu’r cyflenwyr, oddi wrth eich Pennaeth Ysgol, Darlithydd neu Dechnegydd.  Y pris ar gyfer 2024/2025 yw £45, yn amodol ar adolygiad/cynnydd pris chwyddiant.

Gall fod costau ychwanegol yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol.

Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma NVQ mewn Trin Gwallt (Oedolion) Lefel 2?

CFDI0023AD
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr