City & Guilds Diploma mewn Gosodiadau Trydanol Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Adeiladu
Lefel
3
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
Dydd Llun i Dydd Iau
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Os ydych chi wedi dewis gyrfa mewn electroneg, bydd y cwrs hwn yn datblygu’r sgiliau technegol yr ydych wedi eu dysgu ar Lefel 2, a chaiff y cymhwyster ei gydnabod gan y diwydiant electrodechnegol fel cymhwysedd i gyflawni swydd drydanol.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…unrhyw un sy’n diddori mewn gyrfa fel gosodwr trydanol mewn anheddau domestig sydd wedi ennill Diploma Lefel 2 mewn Gosodiadau Trydanol yn barod.Cynnwys y cwrs
Bydd angen i chi ddiddori yn y pwnc, ymrwymo’n llwyr i fynychu yn ogystal â pharchu eraill ac ysgogi eich hun. Bydd angen i chi hefyd fod yn barod i barhau â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.
Mae’r cwrs yn cynnwys gwaith gosodiad trydanol ar gyfer adeiladau a strwythurau, deddfwriaeth iechyd a diogelwch, cynllunio a chwilio am namau. Byddwch yn cael eich asesu drwy arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol cyn ennill cymhwyster Gosodiad Trydanol Lefel 3, a allai eich arwain i Brentisiaeth neu gymwysterau technegol pellach.
Gofynion Mynediad
Dylech fod wedi ennill Diploma Lefel 2 mewn Gosodiad Trydanol cyn cychwyn y cwrs hwn.Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r costau i gyd dan arolygiad ac yn agored i newid.
NPDI0355AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser Estynedig
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr