En

IMI Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Beiciau Modur Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cerbydau Modurol

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn cynnig cipolwg manwl a deinamig ar fyd cynnal a chadw ac atgyweirio beiciau modur. Bydd angen i chi fod â diddordeb brwd mewn beiciau modur a bod yn dda am ddatrys problemau. Bydd angen awydd arnoch i weithio yn y diwydiant cerbydau modur neu i gynnal eich beiciau eich hun a gallu gweithio'n annibynnol ac fel rhan o dîm.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... Mae gennych ddiddordeb brwd mewn beiciau modur

... Rydych yn gallu datrys problemau’n dda ac yn gweithio'n galed

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs hwn yn cael ei arnodi fel tystysgrif dechnegol ac mae wedi cael ei ddylunio i fodloni elfen ddamcaniaethol yr VCQ 2 mewn Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Beiciau Modur. Mae hefyd yn bodloni gofynion y fframwaith Brentisiaeth.

Mae 11 modiwl i’w cwblhau, sy’n cynnwys yr holl fodiwlau Lefel 1 ac unedau mwy manwl. Mae o leiaf hanner y cwrs yn cynnwys gwaith ymarferol ar feiciau modur.

Cewch eich asesu drwy waith cwrs, profion ysgrifenedig a thasgau ymarferol, ac ar ôl ei gwblhau byddwch wedi cyflawni: Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Cerbydau (Beiciau Modur) Lefel 2

Gofynion Mynediad

I astudio ar y cwrs hwn, bydd angen cymhwyster TGAU mewn Mathemateg a Saesneg, gradd C, cymhwyster Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau neu brofiad cyfatebol mewn cynnal a chadw beiciau modur ar lefel sylfaenol.

Bydd dysgwyr aeddfed yn cael eu hystyried yn unigol ar sail sgiliau a phrofiad.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu mynd yn eich blaen i gwblhau Diploma Lefel 3 mewn Gwasanaeth ac Atgyweirio Beiciau Modur.

Byddwch angen prynu Offer Diogelu Personol, megis esgidiau ac oferôls, sy'n costio oddeutu £40.00. Byddwch hefyd angen eich offer ysgrifennu a ffolderi eich hun.

Ble alla i astudio IMI Diploma mewn Egwyddorion Cynnal a Chadw ac Atgyweirio Beiciau Modur Lefel 2?

CFDI0302AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr