En

City & Guilds Dilyniant mewn Gosod Brics Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Cwrs Lefel 2 (Sylfaen) mewn Gosod Brics, Unedau Craidd o gwrs Adeiladu Lefel 2 a naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg gradd C neu uwch.

Yn gryno

Yn ystod y cwrs Lefel Cynnydd mewn Gosod Brics, byddwch yn astudio cyfuniad o unedau adeiladu ymarferol a damcaniaethol yn canolbwyntio ar osod brics, gan eich helpu i ddatblygu eich sgiliau ymhellach ar gyfer gyrfa yn y diwydiant adeiladu.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rhai sydd â diddordeb brwd mewn adeiladu
... Rhai sy’n dyheu am yrfa fel gosodwr brics cymwys
... Rhai sy’n hoffi cymysgedd o astudio ymarferol a gwybodaeth ddamcaniaethol

Beth fyddaf yn ei wneud?

  • Yn ystod y cwrs Gosod Brics lefel cynnydd, byddwch yn astudio unedau adeiladu ymarferol a damcaniaethol yn cynnwys:

    • Egwyddorion adeiladu adeiladau, gwybodaeth a chyfathrebu
    • Adeiladu waliau solet, pileri sy’n sefyll ar eu pennau eu hunain a phileri cysylltiedig
    • Dehongli lluniadau gweithio er mwyn gosod strwythurau gwaith maen
    • Adeiladu waliau ceudod sy’n ffurfio strwythurau gwaith maen
    • Cynhyrchu gwaith maen uniad tenau a chladin gwaith maen

    Byddwch yn treulio amser yn ein gweithdai ymroddedig sydd â chyfarpar da a byddwch yn cael eich asesu trwy brosiectau ymarferol a phrofion ysgrifenedig ac ar-lein. Ar ôl cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn gwneud cais, byddwch angen Lefel 2 (Sylfaen) mewn Gosod Brics a naill ai TGAU Mathemateg/Rhifedd Mathemateg neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg Gradd C neu uwch.

Mae'n rhaid i chi fod ag awydd i weithio yn y diwydiant adeiladu. Mae angen ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd am y pwnc a'r gallu i gymell eich hun. Byddwch yn cael eich asesu yn barhaus ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau’r cwrs Lefel Cynnydd mewn Gosod Brics, gallwch symud ymlaen i Ddiploma Lefel 3 mewn Gosod Brics, Prentisiaeth, neu ddod o hyd i waith yn y diwydiant adeiladu.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd angen i chi brynu Offer Amddiffynnol Personol (PPE) addas a fydd yn costio tua £40.00, yn ogystal â’ch offer ysgrifennu eich hun.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Dilyniant mewn Gosod Brics Lefel 2?

EFDI0374AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr