En

City & Guilds Diploma NVQ Cynhyrchu Bwyd a Choginio Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu yn y Gwaithle Bydd angen i chi fod mewn cyflogaeth lawn amser yn y sector i wneud cais ar gyfer y cwrs hwn a bydd eich aseswr yn ymweld â chi yn y gweithle i gwblhau eich cymhwyster NVQ.
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2024

Hyd

Hyd
2 flynedd

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn addas i gogyddion, cynorthwywyr cegin a chynorthwywyr bwyd cyflym sydd eisiau datblygu eu sgiliau mewn cynhyrchu a choginio bwyd.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...prentisiaid sy'n gweithio fel cogyddion  

...rheiny sy'n delio â pharatoi a choginio bwyd 

...rheiny sydd â diddordeb mewn diogelwch bwyd a gweithleoedd glân

Cynnwys y cwrs

Mae'n rhaid i brentisiaid gyflawni cyfanswm o 40 credyd; 10 credyd o'r grwp gorfodol, 16 credyd o grwp dewisol A a'r 14 credyd sy'n weddill o grwp dewisol B.

 

 

Gorfodol

 

  • Cynnal amgylchedd gweithio diogel a glân
  • Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm lletygarwch
  • Rhoi argraff gadarnhaol ohonoch chi eich hun a'ch sefydliad i gwsmeriaid

 

Dewisol A

 

  • Coginio prydau pysgod sylfaenol
  • Coginio prydau cig sylfaenol
  • Coginio prydau dofednod sylfaenol
  • Coginio prydau llysiau sylfaenol
  • Coginio bwyd wedi'i oeri
  • Coginio bwyd wedi'i rewi
  • Coginio sawsiau poeth sylfaenol
  • Coginio seigiau reis, ffacbys a grawn sylfaenol
  • Coginio prydau pasta sylfaenol
  • Coginio cynnyrch bara a thoes sylfaenol
  • Coginio prydau crwst sylfaenol

 

Dewisol B

 

  • Paratoi a chlirio'r mannau gweithio i ddarparu gwasanaeth dros y cownter ac i fynd
  • Paratoi a chlirio ar gyfer gwasanaeth bwrdd
  • Paratoi a chlirio'r bar
  • Cynnal a chadw seleri a chasgenni bach
  • Glanhau llinellau dosbarthu diodydd
  • Derbyn, storio a gweini diodydd
  • Datrys problemau gwasanaeth cwsmer
  • Hyrwyddo gwasanaethau neu gynnyrch eraill i gwsmeriaid
  • Delio â chwsmeriaid ar draws rhaniad iaith
  • Cynnal gwasanaeth cwsmer da wrth drosglwyddo yn effeithiol
  • Cynnal taliadau a delio â thaliadau
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth yn y sector lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth

 

 

Yn ogystal, bydd dysgwyr yn astudio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) sydd wedi eu dylunio i'w helpu nhw ddatblygu ac arddangos y sgiliau sydd eu hangen i wneud y mwyaf o'u dysgu, gwaith a bywyd. Mae'r rhain yn cynnwys:

 

Cymhwyso Rhif Lefel 1

 

  • Deall data rhifiadol
  • Gwneud cyfrifiadau
  • Dehongli canlyniadau a chyflwyno canfyddiadau

 

 

Cyfathrebu Lefel 1

 

Siarad a gwrando

Darllen

Ysgrifennu

 Asesiad

 

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno yn y gweithle lle bydd aseswr yn ymweld i gwblhau asesiadau yn y gweithle ac adolygiadau ar gynnydd.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i ddysgwyr fod yn gweithio mewn swydd berthnasol i astudio'r diploma hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y cwrs fel arfer yn cymryd 60 wythnos i'w gwblhau. Wedi ei gwblhau'n llwyddiannus, gall dysgwyr fynd ymlaen i astudio cwrs NVQ Lefel 2 mewn Coginio Proffesiynol.

 

Mae'r rhaglen wedi ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma NVQ Cynhyrchu Bwyd a Choginio Lefel 2?

CODI0228AA
Campws Crosskeys
Dysgu yn y Gwaithle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr