En

AIM Diploma mewn Ymarfer Cwnsela Lefel 4

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
09 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau

Amser Dechrau
17:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:30

Hyd

Hyd
33 wythnos

Yn gryno

Mae’r cwrs hwn yn darparu statws proffesiynol i chi mewn cwnsela, ac mae’n ychwanegu at y sgiliau a’r wybodaeth sydd gennych eisoes, er mwyn ennyn dealltwriaeth well o’r maes, gyda phwyslais ar brofiad gydol y lleoliad.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…rywun y mae ei waith o bosibl yn ymwneud â chwnsela, tebyg i nyrsio, dysgu, gwaith cymdeithasol neu waith gwirfoddol, yr heddlu neu’r lluoedd arfog.

Cynnwys y cwrs

Bydd y cymhwyster uwch hwn yn eich galluogi i weithio mewn fframwaith moesegol a datblygu dealltwriaeth o’r gofynion cyfreithiol a moesegol cwnsela. Disgwylir i chi wneud defnydd priodol o arolygiaeth cwnsela o 100 awr a gwerthuso eich gwaith eich hun - mae’r lleoliad hwn yn hanfodol i’ch datblygiad personol a phroffesiynol.

  Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen i’r Diploma Lefel 5 mewn Cwnsela Seicotherapiwtig neu gymwysterau proffesiynol a fydd yn eich galluogi chi i weithio fel ymarferydd cwnsela.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i chi fod wedi cwblhau’r Dystysgrif Lefel 3 mewn Cwnsela.

 

Bydd addasrwydd i astudio yn cael ei ystyried yn ystod y broses gyfweld.

Gwybodaeth Ychwanegol

Yn rhan o’r cwrs, bydd angen o leiaf 100 awr o ymarfer cwnsela a arolygwyd. Dylai gynnwys 8 awr gydag un cleient.  Bydd angen i chi gael gwiriad y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd – rhown fwy o wybodaeth i chi pan fyddwch chi’n ymgeisio.

Ble alla i astudio AIM Diploma mewn Ymarfer Cwnsela Lefel 4?

NCDI0221AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 09 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr