En

City & Guilds City & Guilds Diploma NVQ mewn Derbyniad Blaen Ty Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu yn y Gwaithle Bydd angen i chi fod mewn cyflogaeth lawn amser yn y sector i wneud cais ar gyfer y cwrs hwn a bydd eich aseswr yn ymweld â chi yn y gweithle i gwblhau eich cymhwyster NVQ.
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2024

Hyd

Hyd
2 flynedd

Yn gryno

Bydd prentisiaid sy'n gweithio ym mlaen ty yn adeiladu ar eu sgiliau gweinyddu a gwasanaeth cwsmeriaid i gyrraedd safon gweithle. Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â diogelwch, cyfathrebu a chyrhaeddiad ac ymadawiad cwsmeriaid, i enwi rhai yn unig.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...prentisiaid sydd â chyfrifoldebau blaen ty

...rheiny sydd eisiau gwella eu sgiliau cyfathrebu gyda chwsmeriaid

...rheiny sydd eisiau gweithio'n effeithiol mewn swydd sy'n wynebu cwsmeriaid

Cynnwys y cwrs

Mae'n rhaid i brentisiaid gyflawni cyfanswm o 37 credyd; 11 credyd o'r grwp gorfodol, 3 credyd o grwp dewisol A a'r 23 credyd sy'n weddill o grwp dewisol A neu B.

 

 

Gorfodol

 

  • Cynnal amgylchedd gweithio diogel a glân
  • Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm lletygarwch
  • Rhoi argraff gadarnhaol ohonoch chi eich hun a'ch sefydliad i gwsmeriaid

 

Dewisol A

 

  • Delio â chyfathrebu fel rhan o'r swyddogaeth derbyn
  • Ymdrin â chwsmeriaid sy'n cyrraedd
  • Ymdrin ag archebion
  • Paratoi cyfrifon cwsmeriaid ac ymdrin ag ymadawiadau
  • Darparu gwasanaethau gwybodaeth twristiaid i gwsmeriaid

 

Dewisol B

 

  • Cynhyrchu dogfennau mewn amgylchedd busnes
  • Defnyddio offer y swyddfa
  • Ymdrin â phost ac archebu gwasanaethau allanol
  • Darparu gwasanaethau derbynfa
  • Storio ac adfer gwybodaeth
  • Datrys problemau gwasanaeth cwsmeriaid
  • Hyrwyddo gwasanaethau neu gynnyrch eraill i gwsmeriaid
  • Delio â chwsmeriaid ar draws rhaniad iaith
  • Cynnal gwasanaeth cwsmer da wrth drosglwyddo yn effeithiol
  • Cynnal taliadau ac ymdrin â nhw
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth yn y sector lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth
  • Cyfathrebu mewn amgylchedd busnes

 

Yn ogystal, bydd dysgwyr yn astudio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) sydd wedi eu dylunio i'w helpu nhw ddatblygu ac arddangos y sgiliau sydd eu hangen i wneud y mwyaf o'u dysgu, gwaith a bywyd. Mae'r rhain yn cynnwys:

 

Cymhwyso Rhif Lefel 1

 

  • Deall data rhifiadol
  • Gwneud cyfrifiadau
  • Dehongli canlyniadau a chyflwyno canfyddiadau

 

 

Cyfathrebu Lefel 1

 

Siarad a gwrando

Darllen

Ysgrifennu

 Asesiad

 

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno yn y gweithle lle bydd aseswr yn ymweld i gwblhau asesiadau yn y gweithle ac adolygiadau ar gynnydd

Gofynion Mynediad

Bydd angen i ddysgwyr fod yn gweithio mewn swydd berthnasol i astudio'r diploma hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y cwrs fel arfer yn cymryd 60 wythnos i'w gwblhau. Wedi ei gwblhau'n llwyddiannus, gall dysgwyr fynd ymlaen i astudio Gwasanaeth Cwsmeriaid Lefel 3.

 

Mae'r rhaglen wedi ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Ble alla i astudio City & Guilds City & Guilds Diploma NVQ mewn Derbyniad Blaen Ty Lefel 2?

CODI0219AA
Campws Crosskeys
Dysgu yn y Gwaithle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr