En

City & Guilds Diploma NVQ mewn Coginio Proffesiynol Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu yn y Gwaithle Bydd angen i chi fod mewn cyflogaeth lawn amser yn y sector i wneud cais ar gyfer y cwrs hwn a bydd eich aseswr yn ymweld â chi yn y gweithle i gwblhau eich cymhwyster NVQ.
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2024

Hyd

Hyd
2 flynedd

Yn gryno

Gall prentisiaid arlwyo wella eu sgiliau sylfaenol mewn paratoi a choginio bwyd gyda'r diploma hwn. Mae'r cwrs yn ymdrin â detholiad eang o feysydd, megis diogelwch bwyd a pharatoi cig, llysiau a dofednod, yn ogystal â chaniatáu dysgwyr i ddewis unedau arbenigol.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...prentisiaid sy'n gweithio mewn cegin

...rheiny sydd eisiau symud ymlaen at goginio proffesiynol

...rheiny sydd eisiau gwella eu sgiliau coginio a pharatoi

Cynnwys y cwrs

Mae'n rhaid i brentisiaid gyflawni cyfanswm o 58 credyd; 13 credyd o'r grwp gorfodol, 12 credyd o grwp dewisol A, tri chredyd o grwp dewisol B, 17 credyd o grwp dewisol C a'r 13 credyd sy'n weddill o unrhyw grwp dewisol.

 

Gorfodol

 

  • Cynnal amgylchedd gweithio diogel a glân
  • Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm lletygarwch
  • Cynnal diogelwch bwyd wrth storio, paratoi a choginio bwyd
  • Cynnal, trin a glanhau cyllyll

 

Dewisol A

 

  • Paratoi pysgod ar gyfer prydau sylfaenol
  • Paratoi cig ar gyfer prydau sylfaenol
  • Paratoi dofednod ar gyfer prydau sylfaenol
  • Paratoi llysiau ar gyfer prydau sylfaenol

 

Dewisol B

 

  • Paratoi, coginio a blasuso sawsiau poeth sylfaenol
  • Paratoi, coginio a blasuso cawliau sylfaenol
  • Gwneud stoc sylfaenol

 

Dewisol C

 

  • Paratoi cregynbysgod ar gyfer prydau sylfaenol
  • Paratoi helgig ar gyfer prydau sylfaenol
  • Paratoi offal ar gyfer prydau sylfaenol
  • Prosesu cynhwysion sych cyn coginio
  • Paratoi a chymysgu cymysgeddau o sbeisys a pherlysiau
  • Coginio a blasuso prydau cregynbysgod sylfaenol
  • Coginio a blasuso prydau helgig sylfaenol
  • Coginio a blasuso prydau offal sylfaenol
  • Coginio bwyd wedi'i oeri
  • Coginio bwyd wedi'i rewi
  • Paratoi, coginio a blasuso prydau reis sylfaenol
  • Paratoi, coginio a blasuso prydau pasta sylfaenol
  • Paratoi, coginio a blasuso prydau ffacbys sylfaenol
  • Paratoi, coginio a blasuso prydau protein llysiau sylfaenol
  • Paratoi, coginio a blasuso prydau wyau sylfaenol
  • Paratoi, coginio a blasuso cynnyrch bara a thoes sylfaenol
  • Paratoi, coginio a blasuso cynhyrchion crwst sylfaenol
  • Paratoi, coginio a blasuso teisennau, sbyngau, bisgedi a sgons sylfaenol
  • Paratoi, coginio a blasuso prydau grawn sylfaenol
  • Paratoi, coginio a blasuso pwdinau oer a phoeth sylfaenol
  • Paratoi, coginio a blasuso Dim Sum
  • Paratoi, coginio a blasuso prydau nwdls
  • Paratoi a choginio bwyd gan ddefnyddio popty clai (tandoor)
  • Coginio prydau iachach
  • Cwblhau dogfennaeth y gegin
  • Agor a chau'r gegin
  • Archebu stoc
  • Coginio a blasuso cynnyrch bara a thoes syml
  • Cysylltu â'r tîm gofalu i sicrhau bod anghenion maethol unigolyn yn cael eu bodloni
  • Paratoi prydau i fodloni'r safonau maethol perthnasol a osodir ar gyfer prydau bwyd ysgol
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth yn y sector lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth

 

Dewisol ychwanegol

 

  • Coginio a blasuso prydau pysgod sylfaenol
  • Coginio a blasuso prydau cig sylfaenol
  • Coginio a blasuso prydau dofednod sylfaenol
  • Coginio a blasuso prydau llysiau sylfaenol

 

 

 

Yn ogystal, bydd dysgwyr yn astudio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) sydd wedi eu dylunio i'w helpu nhw ddatblygu ac arddangos y sgiliau sydd eu hangen i wneud y mwyaf o'u dysgu, gwaith a bywyd. Mae'r rhain yn cynnwys:

 

Cymhwyso Rhif Lefel 1

 

  • Deall data rhifiadol
  • Gwneud cyfrifiadau
  • Dehongli canlyniadau a chyflwyno canfyddiadau

 

 

Cyfathrebu Lefel 1

 

Siarad a gwrando

Darllen

Ysgrifennu

 

 

Mae'n rhaid i brentisiaid gyflawni cyfanswm o 37 credyd, naw credyd o grwp dewisol A a 28 credyd o grwp dewisol B.

 

Grwp A (gorfodol)

 

  • Cynnal amgylchedd gweithio diogel a glân
  • Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm lletygarwch
  • Glanhau a gwasanaethu ystod o ardaloedd cadw ty

 

Grwp B (Dewisol)

 

  • Rhoi argraff gadarnhaol ohonoch chi eich hun a'ch sefydliad i gwsmeriaid
  • Delio â chwsmeriaid ar draws rhaniad iaith
  • Cynnal gwasanaeth cwsmer da wrth drosglwyddo yn effeithiol
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth yn y sector lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth
  • Casglu llieiniau a gwneud y gwelyau
  • Glanhau ffenestri o'r tu mewn
  • Defnyddio gwahanol gemegau ac offer wrth gadw ty
  • Cynnal cyflenwadau cadw ty
  • Glanhau, cynnal a chadw a diogelu lloriau rhannol-galed, lloriau caled, lloriau meddal a dodrefn
  • Darparu gwasanaeth llieiniau
  • Gwasanaethu ystafelloedd a glanhau dwys o bryd i'w gilydd

 

Yn ogystal, byddwch yn astudio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) sydd wedi eu dylunio i'ch helpu chi ddatblygu ac arddangos y sgiliau sydd eu hangen i wneud y mwyaf o'ch dysgu, gwaith a bywyd. Gweler manylion isod:

 

Cymhwyso Rhif Lefel 1

 

  • Deall data rhifiadol
  • Gwneud cyfrifiadau
  • Dehongli canlyniadau a chyflwyno canfyddiadau

 

 

Cyfathrebu Lefel 1

 

  • Siarad a gwrando
  • Darllen
  • Ysgrifennu

 

Asesiad

 

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno yn y gweithle lle bydd aseswr yn ymweld i gwblhau asesiadau yn y gweithle ac adolygiadau ar gynnydd.

Gofynion Mynediad

Bydd angen i ddysgwyr fod yn gweithio mewn swydd berthnasol i astudio'r diploma hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y cwrs fel arfer yn cymryd 78 wythnos i'w gwblhau. Wedi ei gwblhau'n llwyddiannus, gall dysgwyr fynd ymlaen i astudio cwrs NVQ Lefel 3 mewn Coginio Proffesiynol.

 

Mae'r rhaglen wedi ei hariannu'n rhannol gan Gronfa Gymdeithasol Ewrop drwy Lywodraeth Cymru.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma NVQ mewn Coginio Proffesiynol Lefel 2?

CODI0199AA
Campws Crosskeys
Dysgu yn y Gwaithle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr