En

City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur Lefel Mynediad 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Moduro

Lefel

Lefel
Entry 3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol, fodd bynnag rhaid i chi gael diddordeb brwd mewn technoleg cerbydau. Byddai peth gafael ar sgiliau peirianneg fecanyddol a thrydanol yn fantais

Yn gryno

Bwriad y cwrs hwn yw cynnig golwg gyffredinol ar y dechnoleg a’r technegau trwsio sy’n gysylltiedig â cherbydau ysgafn. Hefyd, bydd yn eich paratoi ar gyfer astudiaeth bellach yn y diwydiant modurol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych eisiau dealltwriaeth sylfaenol o’r diwydiant modurol
... Ydych eisiau symud yn eich blaen at gyrsiau lefel uwch
... Ydych yn awyddus i weithio mewn garej neu ddelwriaeth

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae rhai o’r unedau craidd ac ychwanegol y byddwch yn eu hastudio’n cynnwys:

  • Iro
  • Systemau oeri
  • Peipiau mwg
  • Systemau tanio
  • Systemau trydanol
  • Systemau brecio
  • Systemau trawsyrru
  • Systemau llywio
  • Systemau crogiant
  • Olwynion a theiars
  • Glanhau

Caiff y cwrs hwn ei asesu trwy gyfrwng amrywiaeth o weithgareddau, fel arholiadau ysgrifenedig ac ymarferol. Ar ôl cwblhau’r cwrs, byddwch yn ennill:

  • Lefel Mynediad 3 mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau
  • Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau a diwallu anghenion y diwydiant
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Mathemateg a Saesneg

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Nid oes yn rhaid meddu ar unrhyw gymwysterau ffurfiol, ond rhaid ichi fod â diddordeb gwirioneddol mewn technoleg cerbydau. Hefyd, byddai dealltwriaeth sylfaenol o sgiliau peirianneg fecanyddol a thrydanol o fantais.

Mae’n ofynnol ymrwymo’n llwyr i fynychu’r cwrs, a hefyd mae’r gallu i weithio’n annibynnol ac fel rhan o dîm yn ofynnol. Disgwylir ichi gadw at ethos y coleg a bod yn barod i wella eich lefel mewn pynciau academaidd.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Lefel 1 mewn Cynnal a Chadw Cerbydau Ysgafn neu Brentisiaeth.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma mewn Cynnal a Chadw a Thrwsio Cerbydau Modur Lefel Mynediad 3?

CFDI0081AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr