En

AAT Diploma Proffesiynol mewn Cyfrifeg (Cymhwyster Llawn) Lefel 4

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith

Lefel

Lefel
4

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£1940.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
17:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
48 wythnos

Yn gryno

Mae’r Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Broffesiynol yn gwneud y mwyaf o gyfleoedd cyflogaeth o fewn cyd-destun cyfrifeg ehangach. Mae’r pwnc hwn yn ymdrin â phynciau a thasgau cyfrifeg a chyllid ar lefel uchel.

Byddwch yn edrych ar ystod eang o sgiliau a chymwysiadau rheolaeth ariannol, a dod yn gyfforddus â nhw ac yn ennill sgiliau mewn drafftio adroddiadau ariannol i gwmnïau cyfyngedig, argymell strategaethau systemau cyfrifeg, a datblygu a chyflwyno adroddiadau cyfrifyddu rheoli cymhleth. Byddwch hefyd yn dysgu am reoli credyd, rheoli arian a rheolaeth ariannol.

Mae themâu allweddol drwy gydol y cymhwyster yn cynnwys technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu.

Os mai eich nod yw bod yn gyfrifydd, yna astudiwch gyda ni yma yn Coleg Gwent, mae gennym diwtoriaid AAT profiadol gyda phrofiad o’r diwydiant i'ch helpu i gwblhau'r cymhwyster hwn yn llwyddiannus.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un sydd wedi llwyddo i gwblhau’r Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg sy’n dymuno parhau i ddatblygu eu sgiliau cyfrifyddu

...y rhai hynny sy’n dymuno mynd ymlaen i ddod yn aelod llawn o’r AAT a/neu astudio am statws cyfrifydd siartredig

...y rhai hynny sy’n dymuno dechrau eu busnes eu hunain drwy’r cynllun aelodau trwyddedig AAT

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn gwella'r sgiliau a ddatblygwyd gennych yn y Diploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg, a chaffael sgiliau cyfrifeg a chyllid 

proffesiynol a fydd yn ddefnyddiol drwy gydol eich gyrfa cyfrifyddu.

Mae’r cymhwyster hwn yn cynnwys tair uned orfodol a dwy uned arbenigol. Mae'r unedau gorfodol yn cynnwys:

  • Cyfrifyddu Rheoli Cymhwysol
  • Drafftio a Dehongli Datganiadau Ariannol
  • Systemau a Rheolaethau Cyfrifo Mewnol

Yr unedau arbenigol yw:

  • Rheolaeth Ariannol a Rheoli Arian Parod
  • Rheoli Credyd a Dyled

Ar ôl dechrau'r cwrs, bydd angen i chi ymrwymo’n llawn i bresenoldeb, dangos parch at eraill, bod yn frwdfrydig ac yn hunanysgogol.

Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus drwy aseiniadau ac arholiadau. Bydd gofyn i chi barhau gyda’ch astudiaethau a gwaith cwrs yn eich amser eich hun, gyda hyd at 8 awr yr wythnos o astudiaeth ar eich liwt eich hun yn ychwanegol i’ch amser yn y dosbarth. Canllaw yw hyn, gall rhai myfyrwyr fod angen mwy neu lai o amser i gwblhau eu cymhwyster.

Bydd disgwyl i chi gwblhau’r holl waith cartref sy’n cael ei osod ar amser.

Gofynion Mynediad

Er mwyn cael eich ystyried ar gyfer y cwrs hwn mae angen i chi fod wedi cwblhau Diploma Uwch AAT Lefel 3 mewn Cyfrifeg neu gyfwerth yn llwyddiannus.

Os nad ydych yn siwr ai dyma’r lefel gywir i chi, ewch i aat.org.uk lle gallwch gwblhau’r prawf AAT Skillcheck neu i helpu i sicrhau eich bod yn dechrau ar y lefel gywir.

Gwybodaeth Ychwanegol

Ar ôl cwblhau’r cwrs hwn, ac ar ôl bodloni meini prawf yr AAT, gallwch wneud cais am aelodaeth lawn o’r AAT, a fydd yn caniatáu i chi ddefnyddio’r llythrennau MAAT ar ôl eich enw.

Fodd bynnag, canlyniad sylfaenol a phwysicaf y Diploma Lefel 4 mewn Cyfrifeg Broffesiynol yw y gall arwain at amrywiaeth eang o swyddi cyfrifeg a chyllid sy’n talu’n dda, y mae rhai ohonynt yn cynnwys:

  • Technegydd Cyfrifyddu Proffesiynol
  • Archwilydd Cynorthwyol
  • Cyfrifydd Rheoli Cynorthwyol
  • Dadansoddwr Masnachol
  • Rheolwr Cyflogres
  • Uwch Geidwad Cyfrifon
  • Uwch Swyddog Ariannol
  • Goruchwyliwr Cyfrifon Taladwy a Threuliau
  • Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol
  • Cyfrifydd Costau
  • Cyfrifydd Asedau Sefydlog
  • Rheolwr Treth Anuniongyrchol
  • Rheolwr Taliadau a Bilio
  • Uwch Gyfrifydd Cronfa
  • Uwch Weinyddwr Ansolfedd
  • Cyfrifydd TAW

Mae cwblhau'r cwrs hwn hefyd yn cynnig llwybr carlam i statws cyfrifydd siartredig gan y bydd AAT yn rhoi eithriadau hael i chi rhag holl gyrff siartredig ac ardystiedig y DU.

Cost llyfrau cwrs oddeutu £150.

Cost Cofrestriad ATT (yn daladwy i ATT) £240.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio AAT Diploma Proffesiynol mewn Cyfrifeg (Cymhwyster Llawn) Lefel 4?

NEDI0077NW
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr