En

AAT Diploma mewn Cyfrifyddu (Cymhwyster Llawn) Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£1380.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun a Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
17:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
34 wythnos

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

  • Tystysgrif Lefel 2 mewn Cyfrifeg
    neu
  • Gyfweliad â’r tiwtor os nad yw’r uchod ar gael

Yn gryno

Mae’r cwrs yma yn olynu AAT Tystysgrif mewn Cyfrifeg Lefel 2 bydd yn eich galluogi i gael sgiliau pellach i fynd ymlaen yn y byd cyfrifeg.

Dyma'r cwrs i chi os...

… Ydych wedi cwblhau cwrs AAT Tystysgrif mewn Cyfrifeg Lefel 2

… Ydych eisiau gwella eich sgiliau a gwybodaeth am y maes cyfrifeg

… Ydych eisiau gweithio yn y byd cyfrifeg.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Cynigir y cwrs llawn amser proffesiynol Cymdeithas y Technegwyr Cyfrifeg (AAT) mewn nifer cyfyngedig o leoedd ar draws de Cymru.

Bydd y cwrs yn ymdrin ag ystod o dasgau cyfrifeg cymhleth, gan gynnwys cynnal cofnodion cyfrifeg cost a pharatoi adroddiadau ac enillion. Mae themâu allweddol drwy gydol y cymhwyster yn cynnwys technoleg, moeseg, cynaliadwyedd a chyfathrebu.

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys pedair uned hanfodol:

• Ymwybyddiaeth Busnes

• Cyfrifyddu Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol

• Technegau Cyfrifeg Rheoli

• Prosesau Treth ar gyfer Busnesau

Mae'r ddwy uned yn cael eu hasesu’n unigol drwy asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur. 

Byddwch yn cael y cymwyster canlynol:

  • Lefel 3 AAT mewn Cyfrifeg
  • Gweithgareddau Sgiliau
  • Cymwysterau perthnasol eraill i fwyhau eich set o sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Er mwyn cael eich derbyn ar y cwrs yma, bydd rhaid i chi gael eich cyflogi yn y diwydiant a gallu dangos sgiliau perthnasol (yn unol â rhestr wirio AAT ar gyfer mynediad uniongyrchol) neu gwblhau Diploma Lefel 2 mewn Cyfrifeg a Busnes.

Bydd angen i chi ymrwymo’n llawn i fod yn bresennol, parchu eraill, dangos brwdfrydedd am y pwnc a chael hunan-gymhelliant. Cewch eich asesu’n barhaus a byddwch yn parhau  â’ch astudiaethau a’ch gwaith cwrs yn eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

  • Diploma AAT Lefel 4 mewn Cyfrifyddu Proffesiynol, y gallwch ei astudio’n llawn amser neu’n rhan amser yn Coleg Gwent.
  • Ar ôl cwblhau’r cymhwyster, gall myfyrwyr ymgymryd yn llwyddiannus â rôl ym maes cyllid.

Gallai sgiliau a ddatblygir drwy’r cymhwyster hwn arwain at gyflogaeth fel:

•Cynorthwyydd Cyfrifon

•Goruchwyliwr Cyfrifon Taladwy a Chostau

•Cyfrifydd Ariannol Cynorthwyol

•Archwilydd dan Hyfforddiant

•Rheolwr Credyd

•Cynorthwyydd Cyllid

•Swyddog Cyllid

•Goruchwyliwr Cyflogres

•Uwch Geidwad Cyfrifon

•Cynorthwyydd Treth.

Gwybodaeth Ychwanegol

I astudio cwrs AAT, mae angen i chi gofrestru â’r AAT fel myfyriwr. Bydd angen i chi gofrestru gydag AAT am gost o tua £230. Bydd angen i chi gofrestru gyda'r coleg hefyd.

Bydd angen i chi brynu llyfrau gwaith, a fydd yn costio tua £150.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio AAT Diploma mewn Cyfrifyddu (Cymhwyster Llawn) Lefel 3?

NCDI0066AB
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr