En

City & Guilds Diploma NVQ Cadw Trefn Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Dysgu yn y Gwaithle Bydd angen i chi fod mewn cyflogaeth lawn amser yn y sector i wneud cais ar gyfer y cwrs hwn a bydd eich aseswr yn ymweld â chi yn y gweithle i gwblhau eich cymhwyster NVQ.
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
Dyddiadau cychwyn ar gael o Awst 2024

Hyd

Hyd
2 flynedd

Yn gryno

Gall prentisiaid sy'n gweithio mewn lletygarwch wella eu sgiliau gwasanaeth cwsmer a chadw ty gyda'r diploma trylwyr hwn.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...prentisiaid sy'n gweithio fel gweithiwr cadw ty, gwas ystafell, morwyn ystafell

...rheiny sydd eisiau gweithio yn yr amgylchedd lletygarwch

...rheiny sydd eisiau gwella eu sgiliau gwasanaeth cwsmeriaid

Cynnwys y cwrs

Mae'n rhaid i brentisiaid gyflawni cyfanswm o 37 credyd, naw credyd o grwp gorfodol A a 28 credyd o grwp dewisol B.

 

Grwp A (gorfodol)

 

  • Cynnal amgylchedd gweithio diogel a glân
  • Gweithio'n effeithiol fel rhan o dîm lletygarwch
  • Glanhau a gwasanaethu ystod o fannau cadw ty

 

Grwp B (Dewisol)

 

  • Rhoi argraff gadarnhaol ohonoch chi eich hun a'ch sefydliad i gwsmeriaid
  • Delio â chwsmeriaid ar draws rhaniad iaith
  • Cynnal gwasanaeth cwsmer da wrth drosglwyddo yn effeithiol
  • Hawliau a chyfrifoldebau cyflogaeth yn y sector lletygarwch, hamdden, teithio a thwristiaeth
  • Casglu llieiniau a gwneud y gwelyau
  • Glanhau ffenestri o'r tu mewn
  • Defnyddio gwahanol gemegau ac offer wrth gadw ty
  • Cynnal cyflenwadau cadw ty
  • Glanhau, cynnal a chadw a diogelu lloriau rhannol-galed, lloriau caled, lloriau meddal a dodrefn
  • Darparu gwasanaeth llieiniau
  • Gwasanaethu ystafelloedd a glanhau dwys o bryd i'w gilydd

 

Yn ogystal, bydd dysgwyr yn astudio cymwysterau Sgiliau Hanfodol Cymru (ESW) sydd wedi eu dylunio i'w helpu nhw ddatblygu ac arddangos y sgiliau sydd eu hangen i wneud y mwyaf o'u dysgu, gwaith a bywyd. Gweler manylion isod:

 

Cymhwyso Rhif Lefel 1

 

  • Deall data rhifiadol
  • Gwneud cyfrifiadau
  • Dehongli canlyniadau a chyflwyno canfyddiadau

 

 

Cyfathrebu Lefel 1

 

  • Siarad a gwrando
  • Darllen
  • Ysgrifennu

 

Asesiad

 

Bydd y cwrs yn cael ei gyflwyno yn y gweithle lle bydd aseswr yn ymweld i gwblhau asesiadau yn y gweithle ac adolygiadau ar gynnydd.

 

Gofynion Mynediad

Bydd angen i ddysgwyr fod yn gweithio mewn swydd berthnasol i astudio'r diploma hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y cwrs fel arfer yn cymryd 78 wythnos i'w gwblhau. Wedi ei gwblhau'n llwyddiannus, gall dysgwyr fynd ymlaen i astudio NVQ Lefel 2 mewn Gwasanaeth Blaen Ty neu Wasanaeth Cwsmeriaid. 

Ble alla i astudio City & Guilds Diploma NVQ Cadw Trefn Lefel 2?

CODI0060AA
Campws Crosskeys
Dysgu yn y Gwaithle

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr