CBAC / City & Guilds Diploma mewn Gofal, Dysg a Datblygiad Plant Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Lefel
2
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
04 Medi 2023
*Ymrestru ar agor o hyd
Hyd
Gofynion Mynediad
I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen:
- o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg;
- neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys un ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg Gradd D neu uwch.
Mae'n rhaid i ddysgwyr Lefel 1 gyflawni gradd TT ac arddangos ymrwymiad a chynydd mewn Sgiliau (Llythrennedd/Rhifedd).
Yn gryno
Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau o ran gofalu am blant. Byddwch yn astudio unedau ar arfer gofal plant, cynydd a datblygiad, iechyd a diogelwch, gweithgareddau chwarae a chreadigol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth gyfredol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych eisiau gweithio gyda phlant a phobl ifanc
... Rydych eisiau gwneud cymwysterau pellach mewn disgyblaeth gysylltiedig
... Rydych eisiau gwella eich gwybodaeth a sgiliau mewn gofal plant.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i weithio gyda phlant a phobl ifanc o'u geni hyd at 19 mlwydd oed. Mae'n edrych ar amrywiaeth o swyddi a meysydd galwedigaethol, ac yn eich paratoi chi ar gyfer gweithio mewn amgylchedd â phlant, yn cynnwys y blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol.
Mae'r cwrs yn gyfuniad o theori ac ymarfer. Byddwch yn treulio tri diwrnod yr wythnos yn y coleg yn datblygu'r elfennau gwybodaeth a damcaniaethol y cymhwyster, a deuddydd yr wythnos mewn lleoliad gwaith (yn ogystal â lleoliadau bloc lle fo'n ofynnol) yn cael profiad ymarferol o weithio gyda phlant a phobl ifanc.
Byddwch yn datblygu gwybodaeth am y pwnc yn ystod y cwrs, a chewch eich asesu ar amrywiaeth o gymwyseddau Theori ac Ymarfer. Mae rhan sylweddol o'r asesiad yn digwydd yn eich lleoliad gwaith, ond mae gofyn i chi hefyd gwblhau asesiadau mewnol ac allanol.
Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:
- Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 - CBAC/City & Guilds
- Lefel 2 Craidd
- Lefel 2 Theori ac Ymarfer
- Mathemateg a Saesneg
Byddwch hefyd yn cwblhau cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich cyfuniad o sgiliau, megis:
- Hylendid bwyd
- Cymorth Cyntaf Pediatrig
Ymgymryd â Dug Edingburgh
Cystadlaethau sgiliau cenedlaethol a byd
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Bydd disgwyl i chi ymrwymo i astudio am 5 diwrnod bob wythnos, ac mae hynny'n cynnwys sesiynau addysgu yn ymdrin ag elfen wybodaeth y cymwysterau yn y coleg, a diwrnodau/blociau lleoliad gwaith ar gyfer elfen gymhwystra y cymhwyster.
Mae ymrwymiad llawn ibresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc, y diwydiant gofal/gofal plant a'r gallu i gymell eich hun.
Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus yn ystod y cwrs ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu parhau â Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 CBAC/City & Guilds.
Byddwch hefyd yn barod i gamu i fyd gwaith, a chael swydd fel cynorthwyydd ysgol feithrin, meithrinfa, creche, gweithiwr gofal plant y tu allan i'r ysgol neu gynorthwyydd Cylch Meithrin.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS boddhaol cyn dechrau'r cwrs hwn.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0095AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 04 Medi 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr