En

CBAC / City & Guilds Sgiliau Cyflogadwyedd a Gofal Plant Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
02 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen:

  • o leiaf 4 TGAU Gradd D neu uwch, yn cynnwys naill ai Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg Iaith Gyntaf/Saesneg;
  • neu gymhwyster Diploma Lefel 1 priodol yn y maes galwedigaethol perthnasol sy'n cynnwys un ai TGAU Mathemateg/Rhifedd neu Gymraeg/Saesneg Gradd D neu uwch.

Mae'n rhaid i ddysgwyr Lefel 1 gyflawni gradd TT ac arddangos ymrwymiad a chynydd mewn Sgiliau (Llythrennedd/Rhifedd).

Yn gryno

Bydd y cwrs hwn yn datblygu eich sgiliau o ran gofalu am blant. Byddwch yn astudio unedau ar arfer gofal plant, cynydd a datblygiad, iechyd a diogelwch, gweithgareddau chwarae a chreadigol sy'n gysylltiedig â deddfwriaeth gyfredol.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych eisiau gweithio gyda phlant a phobl ifanc

... Rydych eisiau gwneud cymwysterau pellach mewn disgyblaeth gysylltiedig

... Rydych eisiau gwella eich gwybodaeth a sgiliau mewn gofal plant.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn ennill y wybodaeth a'r sgiliau sydd eu hangen i weithio gyda phlant a phobl ifanc o'u geni hyd at 19 mlwydd oed. Mae'n edrych ar amrywiaeth o swyddi a meysydd galwedigaethol, ac yn eich paratoi chi ar gyfer gweithio mewn amgylchedd â phlant, yn cynnwys y blynyddoedd cynnar a gofal cymdeithasol.

Mae'r cwrs yn gyfuniad o theori ac ymarfer. Byddwch yn treulio tri diwrnod yr wythnos yn y coleg yn datblygu'r elfennau gwybodaeth a damcaniaethol y cymhwyster, a deuddydd yr wythnos mewn lleoliad gwaith (yn ogystal â lleoliadau bloc lle fo'n ofynnol) yn cael profiad ymarferol o weithio gyda phlant a phobl ifanc.

Byddwch yn datblygu gwybodaeth am y pwnc yn ystod y cwrs, a chewch eich asesu ar amrywiaeth o gymwyseddau Theori ac Ymarfer. Mae rhan sylweddol o'r asesiad yn digwydd yn eich lleoliad gwaith, ond mae gofyn i chi hefyd gwblhau asesiadau mewnol ac allanol.

Pan fyddwch yn cwblhau'r cwrs, byddwch yn ennill y cymwysterau canlynol:

  • Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 2 - CBAC/City & Guilds
  • Lefel 2 Craidd
  • Lefel 2 Theori ac Ymarfer
  • Mathemateg a Saesneg

Byddwch hefyd yn cwblhau cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich cyfuniad o sgiliau, megis:

  • Hylendid bwyd
  • Cymorth Cyntaf Pediatrig

Ymgymryd â Dug Edingburgh

Cystadlaethau sgiliau cenedlaethol a byd

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Bydd disgwyl i chi ymrwymo i astudio am 5 diwrnod bob wythnos, ac mae hynny'n cynnwys sesiynau addysgu yn ymdrin ag elfen wybodaeth y cymwysterau yn y coleg, a diwrnodau/blociau lleoliad gwaith ar gyfer elfen gymhwystra y cymhwyster.

Mae ymrwymiad llawn ibresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill,  brwdfrydedd tuag at y pwnc, y diwydiant gofal/gofal plant a'r gallu i gymell eich hun.

Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus yn ystod y cwrs ac mae disgwyl eich bod yn parhau gyda'ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs/lleoliad gwaith yn ystod eich amser eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, byddwch yn gallu parhau â Gofal, Dysgu a Datblygiad Plant Lefel 3 CBAC/City & Guilds.

Byddwch hefyd yn barod i gamu i fyd gwaith, a chael swydd fel cynorthwyydd ysgol feithrin, meithrinfa, creche, gweithiwr gofal plant y tu allan i'r ysgol neu gynorthwyydd Cylch Meithrin.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd rhaid i bob dysgwr gael gwiriad DBS boddhaol cyn dechrau'r cwrs hwn.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio CBAC / City & Guilds Sgiliau Cyflogadwyedd a Gofal Plant Lefel 2?

NFDI0095AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 02 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr