City & Guilds City & Guilds Diploma mewn Therapi Harddwch Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
3
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
07 Medi 2023
Hyd
1 flwyddyn
Gofynion Mynediad
I gael mynediad i'r cwrs hwn, bydd angen Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch arnoch. Bydd dysgwyr heb TGAU Mathemateg a Saesneg yn parhau i weithio tuag at y cymwysterau hyn.
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn gwella eich sgiliau technegol, yn rhoi gwybodaeth fanwl i chi am feysydd arbenigol a bydd yn eich paratoi ar gyfer cyflogaeth fel therapydd harddwch cwbl gymwysedig.
Dyma'r cwrs i chi os...
...rydych wedi cymhwyso mewn Therapi Harddwch ar Lefel 2
...rydych eisiau datblygu gwybodaeth arbenigol
...rydych yn weithgar ac mae gennych bersonoliaeth gyfeillgar
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn dysgu triniaethau harddwch a thechnegau datblygedig megis:
- Tylino'r corff
- Triniaethau arbenigol trydanol a mecanyddol ar gyfer y wyneb a’r corff
- Rhoi lliw haul ffug â llaw neu â chwistrell
- Strwythurau ewinedd artiffisial
- Tylino pen Indiaidd
- Tylino therapi cerrig
- Diflewio
- Gofal cleientiaid
- Hyrwyddo a gwerthu
- Gweithdrefnau iechyd, diogelwch a hylendid yn y salon.
Byddwch yn dysgu trwy:
- Ddosbarthiadau theori
- Gweithdai ymarferol
- Amgylcheddau salon go iawn yn y coleg yn gweithio ar gleientiaid
- Sesiynau masnachol
- Arddangosiadau
- Gwaith grwp
- Lleoliadau gwaith - naill ai bob wythnos neu mewn bloc
Byddwch hefyd yn cael y cyfle i gymryd rhan mewn:
- Cystadlaethau mewnol yn y coleg
- Cystadleuaeth Sgiliau Cymru a Sgiliau’r Byd
- Diwrnodau sba
- Arddangosiadau diwydiant ar Driniaeth Laser/IPL
- Ymweliadau a theithiau i weld arbenigwyr yn y diwydiant
- Rolau goruchwylio yn yr adran a rheoli colofnau therapyddion
Byddwch yn cael eich asesu drwy asesiadau ymarferol, aseiniadau, prosiectau a phrofion amlddewis ar-lein sy'n cwmpasu gwybodaeth sylfaenol. Ar ôl ei gwblhau, byddwch yn cyflawni:
- Lefel 3 Therapi Harddwch
- Cymwysterau ategol priodol i ehangu eich set sgiliau
- Gweithgareddau Sgiliau
- Mathemateg a Saesneg
- Sgiliau Cyfoethogi Creadigol (gweithgareddau cymunedol ac arddangosiadau)
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gael mynediad i'r cwrs hwn, bydd angen Diploma Lefel 2 mewn Therapi Harddwch arnoch. Bydd dysgwyr heb TGAU Mathemateg a Saesneg yn parhau i weithio tuag at y cymwysterau hyn.
Beth sy'n digwydd nesaf?
- Diploma Lefel 3 mewn Therapïau Cyflenwol
- HND mewn Therapïau Cyflenwol (gyda Statws Ymarferydd)
- Diploma Lefel 4 mewn CDU Laser
- Cyflogaeth yn y diwydiant therapi harddwch
Gwybodaeth Ychwanegol
Cod gwisg:
- Gwisg arbennig
- Mae’n rhaid clymu’r gwallt yn daclus i ffwrdd o’r wyneb
- Dim tyllau corff
- Ni chaniateir gwisgo unrhyw emwaith ac eithrio modrwy briodas yn y salon
Bydd disgwyl i chi i gwerslyfr a phecyn ewinedd artiffisial sy'n costio tua £113 a thalu am deithiau sy’n costio tua £50.
I gydfynd â disgwyliadau diwydiant, bydd gofyn i chi wisgo gwisg salon Coleg Gwent. Bydd y coleg yn talu am gost un wisg lawn bob blwyddyn. Gellir prynu setiau ychwanegol am tua £45 (i’w gadarnhau); bydd staff coleg yn gallu eich cyfeirio at y darparwr priodol os/pan fydd angen.
Mae'r holl gostau yn cael eu hadolygu a gallent newid.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
NFDI0445AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 07 Medi 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr