Gradd Sylfaen Diwydiannau Creadigol: Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd (llwybr Cynhyrchu Cerddoriaeth)

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
19 Medi 2023
Gofynion Mynediad
48 pwyntiau UCAS
NEU
Mynediad i AU lle rydych chi wedi cyflawni Diploma Llwyddo gyda 45 Pas.
Hefyd: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).
Sylwch, os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf gradd, yna efallai gellir ystyried oedran a phrofiad.
Yn gryno
Mae dau lwybr ar y cwrs hwn a gallwch ddewis rhwng Perfformio Cerddoriaeth a Chynhyrchu Cerddoriaeth.
Perfformio Cerddoriaeth - Mae hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr sy’n chwarae offeryn ac sydd eisiau chwarae mewn band.
Cynhyrchu Cerddoriaeth - Mae hwn wedi’i anelu at fyfyrwyr sy’n awyddus i ganolbwyntio mwy ar gynhyrchu cerddoriaeth.
Byddwch yn dysgu am bob agwedd ar y diwydiant cerddoriaeth, o gyfansoddi ac ysgrifennu caneuon i raglenni meddalwedd cerddoriaeth, technegau recordio byw, perfformio cerddoriaeth a rheoli sain fyw.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Mae gennych ddiddordeb brwd mewn cerddoriaeth boblogaidd
... Rydych eisiau cwrs ymarferol er mwyn ennill profiad
... Rydych eisiau cyfuniad o sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddamcaniaethol
... Rydych eisiau creu cerddoriaeth naill ai wrth ddefnyddio offerynnau neu dechnoleg
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn cael eich addysgu gan arbenigwyr profiadol, yn ymgymryd â phrosiectau go iawn ac yn cymryd rhan mewn gweithdai gydag artistiaid gwadd. Mae lleoliadau seiliedig ar waith yn elfen bwysig o’r ail flwyddyn, ac yn eich galluogi i ennill profiadau go iawn a gwneud cysylltiadau gwerthfawr yn y diwydiant.
Yn ogystal â dysgu am dechnegau perfformio a meddalwedd, byddwch yn cael cyfle i astudio meysydd arbenigol, megis sain fyw, recordio, ysgrifennu caneuon, cyfansoddi a threfnu cerddoriaeth. Byddwch hefyd yn dysgu am y diwydiant cerddoriaeth, ei hanes, ei ddulliau a'i berfformiadau, gan gaffael sgiliau ymarfer proffesiynol ar yr un pryd.
Bydd y ddau lwybr yn astudio'r modiwlau canlynol:
- Peirianneg Stiwdio Recordio
- Prosiect Cynhyrchu
- Sain yn Seiliedig ar Gyfrifiadur
- Cyfansoddi gyda Thechnoleg Cerdd
Bydd Perfformio Cerddoriaeth hefyd yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Geiriau a Cherddoriaeth: Diwylliant, Cyd-destun a Beirniadaeth
- Gweithdy Perfformio'n Fyw
Bydd Cynhyrchu Cerddoriaeth hefyd yn canolbwyntio ar y canlynol:
- Hanfodion Peirianneg Sain
- Sgiliau Cynhyrchu Cerddoriaeth
Os ydych yn ansicr o ba lwybr sydd fwyaf addas ar eich cyfer chi, yna gallwn drafod hyn gyda chi.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Fel arfer, byddai'n rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol:
- 48 pwyntiau UCAS - cyfrifiannell tariff UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
- Mynediad i AU lle rydych chi wedi cyflawni Diploma Llwyddo gyda 45 Pas.
Hefyd: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).
Sylwch, os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf gradd, yna efallai gellir ystyried oedran a phrofiad.
Mae’n bosibl y gofynnir i ymgeiswyr fynychu cyfweliad, cymryd rhan mewn sesiwn gweithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o’r broses ddethol.
Mae ymroddiad llwyr i bresenoldeb yn ofynnol, ynghyd â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunanysgogiad, gallu creadigol ac awydd i lwyddo.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Bydd y cwrs yma yn eich darparu gyda’r wybodaeth, profiad a hyder i weithio yn y diwydiant cerddoriaeth. Fel arall, fe allech benderfynu symud ymlaen i raglen radd berthnasol. Bydd myfyrwyr sy’n cwblhau’r Radd Sylfaen yn llwyddiannus yn gymwys i symud ymlaen i flwyddyn olaf y BA (Anrh) Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd ar Gampws Prifysgol De Cymru yng Nghaerdydd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Breinir y cwrs yma gan Brifysgol De Cymru.
Y cod UCAS yw: WJ39
Cod y sefydliad: W01
Cod y campws: G
Gallwch wneud cais uniongyrchol i’r coleg neu trwy UCAS ar gyfer y cwrs yma.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
CFDG0043AC
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 19 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr