En

Gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu'r Cyfryngau

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
17 Medi 2024

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Fel arfer, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:

Yn ogystal â: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).

Noder os nad ydych yn bodloni'r meini prawf gradd, gellir rhoi ystyriaeth i oed a phrofiad.

Efallai y bydd gofyn hefyd i chi fynychu cyfweliad neu glyweliad, cymryd rhan mewn sesiwn weithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o'r broses ddethol.

Yn gryno

Mae'r cwrs yn antur ym myd creu ffilmiau annibynnol ac adrodd straeon, sy'n canolbwyntio ar sgiliau ymarferol creu a thechnegau cynhyrchu ffilm cyllid isel. Mae'n gwrs creu ffilmiau a addysgir gan wneuthurwyr ffilmiau sydd wedi ennill gwobrau.

Mae wedi'i gynllunio i'ch helpu i ddod o hyd i'ch llais fel gwneuthurwr ffilmiau a'i ddatblygu – gan arbenigo o bosib fel awdur, cyfarwyddwr, person camerâu, cynhyrchydd, golygydd; neu hyd yn oed bob un ohonynt! Cwrs byr pwrpasol ydyw sy'n ceisio datblygu talentau a lleisiau unigolion – nid creu israddedigion gyda sgiliau technegol unfath a dim byd i'w ddweud.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych chi wrth eich bodd â ffilm, teledu, neu stwff rhyfedd ar youtube!

... Rydych eisiau adrodd straeon ar sgrin, bach neu fawr

... Rydych eisiau datblygu eich sgiliau er mwyn datblygu tuag at yrfa

... Rydych eisiau gweithio gyda phobl sydd yr un mor angerddol dros greu ffilmiau.

Nid chwilio am bobl sydd wedi creu ffilmiau o'r blaen yn unig ydym ni. Rydym yn awyddus iawn i gael pobl sy'n ysu i gael dweud eu straeon - boed ar sgrin fach neu fawr Efallai eich bod yn flogwr brwd sy'n awyddus i fynd â phethau i'r lefel nesaf; yn actor awyddus sydd â stori anhygoel i'w hadrodd; neu'n awdur sydd angen gweld eu syniadau ar y sgrin!

Beth fyddaf yn ei wneud?

Credwn mai'r ffordd orau o ddysgu sut i greu ffilmiau yw peidio eich rhoi mewn ystafell ddosbarth sy'n eich diflasu gyda chyflwyniadau PowerPoint diddiwedd, ond eich cael yn hytrach i greu ffilmiau – nifer helaeth ohonynt!

Yn ystod eich 2 flynedd gyda ni, byddwch yn creu o leiaf 50 o ffilmiau. Byddwch yn creu ffilmiau mewn awr, mewn prynhawn, mewn diwrnod ac mewn wythnos, gyda rhai prosiectau mwy a allai gymryd ychydig fisoedd. Bydd rhai ohonynt yn ofnadwy, ambell un yn foddhaol o bosib, a gallai un neu ddau hyd yn oed fod yn rhagorol! Ond ar hyd y ffordd, byddwch yn dysgu creu ffilmiau y ffordd orau bosib – yn ymarferol, gan ddysgu drwy weithredu (yr unig ffordd y gallwch ddysgu creu ffilmiau!).

I ddechrau, byddwn yn eich rhoi ar waith ar y pethau sylfaenol ac yn sicrhau eich bod yn ymgyfarwyddo â'r pecyn cynhyrchu ffilm hanfodol, gan gychwyn gyda'ch ffôn smart, cyn symud ymlaen i becyn darlledu drud.

Byddwn yn dangos i chi sut i ffilmio, golygu a hyd yn oed cyfansoddi'r trac sain ar gyfer eich ffilm drwy weithdai a heriau ymarferol.

Mae adrodd straeon wrth wraidd popeth a wnawn - nid yw edrych ar luniau deniadol yn unig yn ddigon i ddwyn sylw neb, straeon sy'n swyno cynulleidfaoedd. Byddwn yn dysgu popeth rydych angen ei wybod i chi er mwyn adrodd straeon sgrin anhygoel - ar hyd y ffordd byddwn yn sicrhau eich bod yn cymryd rhan mewn nifer o heriau gwirion, fel ysgrifennu llyfr comig a straeon plant.

Yn ystod eich amser gyda ni byddwch yn creu rhaglenni dogfen, drama, fideos cerddoriaeth, ffilmiau celf, hysbysebion, ffilmiau corfforaethol a mwy wrth i chi ddatblygu eich sgiliau a'ch llais fel gwneuthurwr ffilm.

Strwythur y Cwrs:

Blwyddyn 1

* Tymor Cyntaf y Prosiect Mawr - Prosiect Dogfennol 5 munud. Byddwch yn gwneud cysylltiadau ac yn creu ffilm wedi'i chreu ar sail bywyd go iawn

* Rhaglen Lawn o weithdai technegol, gan gynnwys goleuo, camera, recordio sain, golygu, trosleisio. Hefyd, gweithdai diwydiant ar ysgrifennu ar gyfer y sgrin a gweithio gydag actorion (sut i dynnu'r gorau o'r actorion yn eich ffilmiau. Byddwch yn gweithio gydag actorion proffesiynol, a fydd yn eich helpu i ddatblygu eich sgiliau).

* Prosiect mawr tymor 2 - byddwch yn cyflwyno Prosiect Drama gwreiddiol 10 Munud.

Blwyddyn 2

* Tymor Cyntaf y Prosiect Mawr - Prosiect Drama Ddogfennol 15 munud. Byddwch yn gwneud cysylltiadau ac yn creu drama wedi'i chreu o stori ar sail bywyd go iawn.

* Uwch weithdai technegol a chynhyrchu, gan gynnwys 'Cyfarwyddo ar gyfer dogfen a drama.' A sut i gynhyrchu Ffilm Annibynnol. Byddwn yn eich ymgyfarwyddo â phopeth rydych angen ei wybod er mwyn creu ffilm wedi'i chyllido. O ddatblygu syniad masnachol, i sicrhau cyllid, i ffilmio a rhoi'r syniad ar y sgrin a sut i ennill gwobrau.

* Prosiect mawr Tymor 2 - Prosiect Drama wreiddiol 15 munud, neu raglen ddogfen 20 munud

* Profiad gwaith - Byddwch yn mynychu profiad gwaith gwerth 2 wythnos o leiaf gyda chwmni cynhyrchu annibynnol.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth). Bydd rhaid i chi hefyd fod ag o leiaf un o'r canlynol:

  • Proffil BTEC Lefel 3 perthnasol gyda Theilyngdod/Teilyngdod
  • Graddau DD ar Safon Uwch
  • Graddau DE ar Safon Uwch, gyda gradd C mewn Bagloriaeth Cymru
  • Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Achos o Lwyddiant

Nid ydym yn disgwyl i chi brynu unrhyw offer ar gyfer y cwrs - er, byddem yn argymell i chi gael ffôn smart gyda chamera fideo a mynediad at liniadur.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad i chi ar gyfer gyrfa mewn creu ffilmiau neu er mwyn symud ymlaen i'ch astudiaethau rhaglen BA (Anrh) ym Mhrifysgol De Cymru.

Gwybodaeth Ychwanegol

Efallai y bydd gofyn hefyd i ymgeiswyr fynychu cyfweliad neu glyweliad, cymryd rhan mewn sesiwn weithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o'r broses ddethol.

Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.

  • Y cod UCAS yw 9D73
  • Y cod sefydliad yw W01
  • Y cod campws yw G

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen mewn Cynhyrchu'r Cyfryngau?

CFDG0046AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 17 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr