En

Gradd Sylfaen Diwydiannau Creadigol: Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd (Llwybr Cynhyrchu Cerddoriaeth)

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
18 Medi 2023
*Ymrestru ar agor o hyd

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

48 pwyntiau UCAS

NEU

Mynediad i AU lle rydych chi wedi cyflawni Diploma Llwyddo gyda 45 Pas.

Hefyd: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).

Sylwch, os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf gradd, yna efallai gellir ystyried oedran a phrofiad.

Yn gryno

Mae’r cymhwyster Fda Perfformiad Cerddoriaeth wedi'i anelu at fyfyrwyr sy'n chwarae offeryn ac sydd am chwarae gyda band.

Byddwch yn dysgu am bob agwedd ar y diwydiant cerddoriaeth, o gyfansoddi ac ysgrifennu caneuon i ddefnyddio meddalwedd cerddoriaeth, technegau recordio a rheoli sain byw.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych chi'n angerddol dros gerddoriaeth boblogaidd

... Ydych chi eisiau cwrs ymarferol er mwyn eich darparu profiad

... Ydych chi eisiau cyfuniad o sgiliau ymarferol a dealltwriaeth ddamcaniaethol

... Ydych chi am greu cerddoriaeth drwy naill ai ddefnyddio offerynnau neu dechnoleg

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn cael eich addysgu gan weithwyr proffesiynol profiadol, yn ymgymryd â phrosiectau go iawn ac yn cymryd rhan mewn gweithdai gydag artistiaid sy'n ymweld. Elfen bwysig o'r ail flwyddyn yw lleoliad gwaith, a fydd yn eich galluogi i ennill profiad go iawn a gwneud cysylltiadau gwerthfawr o fewn y diwydiant.

Yn ogystal â dysgu am dechnegau perfformio a meddalwedd, byddwch yn cael cyfle i astudio meysydd arbenigol, megis sain byw, recordio, ysgrifennu caneuon, cyfansoddi a threfniant. Byddwch hefyd yn dysgu am y diwydiant cerddoriaeth, o'i hanes i ddulliau a pherfformiadau, tra'n dysgu sgiliau ymarfer proffesiynol.

Byddwch yn astudio'r modiwlau canlynol:

  • Peirianneg y Stiwdio Recordio
  • Prosiect Cynhyrchu
  • Sain Gyfrifiadurol
  • Cyfansoddi gyda Thechnoleg Cerddoriaeth
  • Geiriau a Cherddoriaeth: Diwylliant, Cyd-destun a Beirniadaeth
  • Gweithdy Perfformio Byw

 

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Fel arfer, bydd angen o leiaf un o'r canlynol arnoch:

Hefyd: Llwyddiannau mewn tri phwnc TGAU gradd C neu’n uwch, gan gynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith (neu gyfwerth).

Sylwch, os nad ydych yn bodloni meini prawf y radd, yna efallai y bydd modd ystyried oedran a phrofiad.

Gellir gofyn i ymgeiswyr fynychu cyfweliad, cymryd rhan mewn sesiwn gweithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o'r broses ddethol.

Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb, yn ogystal â pharch at eraill, brwdfrydedd dros y pwnc, hunangymhelliant, gallu creadigol ac awydd i lwyddo yn ofynnol.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae'r llwybr dilyniant ar gyfer FdA yn cynnwys BA (Anrh) Cerddoriaeth Boblogaidd a Masnachol yn Prifysgol De Cymru.

Gwybodaeth Ychwanegol

Canlyniadau’r Cwrs:

A1 Dealltwriaeth o ffurfiau a genres perthnasol a'r ffordd y maent yn trin deunyddiau crai megis sain/delweddau/amlgyfryngau/y gair ysgrifenedig i greu ystyr.

A2 Dealltwriaeth o esblygiad hanesyddol genres penodol, traddodiadau a ffurfiau esthetig, a'u nodweddion presennol a'u datblygiadau posib yn y dyfodol

A3 Dealltwriaeth o faterion proffesiynol, technegol, a lle bo'n berthnasol, gwyddonol sy'n gwireddu, yn datblygu neu’n herio arferion a thraddodiadau presennol, ac o'r posibiliadau a'r cyfyngiadau sy'n ymwneud â phrosesau cynhyrchu

A4 Integreiddio theori ac ymarfer drwy ymgysylltu ag ymchwil a gwaith ymarferol, ac i esbonio a gwerthuso natur sain a'i ymddygiad mewn cyd-destun peirianneg sain.

B1 Cydweddu, dadansoddi a gwerthuso ystod o syniadau a dadleuon deallusol yn y maes pwnc yn feirniadol.

B2 Ystyried a gwerthuso eu gwaith eu hunain mewn modd adweithiol, gan gyfeirio at faterion, dadleuon a chonfensiynau academaidd a/neu broffesiynol.

B3 Cynnal amryw fathau o ymchwil ar gyfer traethodau, prosiectau, cynyrchiadau creadigol neu draethodau hir sy'n cynnwys ymholiad annibynnol a pharhaus;

B4 Dealltwriaeth o alluoedd technegol y myfyriwr drwy ymgysylltu â phrosiectau sy'n defnyddio technolegau perthnasol

C1 Cynhyrchu gwaith sy'n dangos trin deunydd perthnasol yn effeithiol, megis sain, delweddau, amlgyfryngau neu'r gair ysgrifenedig

C2 Cynhyrchu gwaith sy'n dangos gallu mewn agweddau gweithredol ar dechnolegau, systemau, technegau ac arferion proffesiynol

C3 Y gallu i fyfyrio ar natur ymarfer proffesiynol eu disgyblaeth a nodi'r bylchau rhwng eu galluoedd sy’n gysylltiedig â gwaith a disgwyliadau’r ddisgyblaeth.

C4 Addasu i ystod eang o senarios, gyda phwyslais ar hyblygrwydd, personol; cyfrifoldeb a gwneud penderfyniadau.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen Diwydiannau Creadigol: Technoleg Cerddoriaeth Boblogaidd (Llwybr Cynhyrchu Cerddoriaeth)?

CFDG0043AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 18 Medi 2023

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

CFDG0043AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 18 Medi 2023

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr