Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformiadol

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Cerddoriaeth, Drama a Dawns
Llawn Amser
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
19 Medi 2023
Gofynion Mynediad
Fel arfer, byddwch angen o leiaf un o'r canlynol:
- 48 o bwyntiau UCAS - cyfrifiannell tariff UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
- Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Achos o Lwyddiant
Yn ogystal â:
- Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).
Noder os nad ydych yn bodloni'r meini prawf gradd, gellir rhoi ystyriaeth i oed a phrofiad.
Yn gryno
Mae’r cwrs yma yn rhoi cyfle i chi archwilio drama, dawns a cherddoriaeth o safbwynt rhyngddisgyblaethol, tra’n datblygu eich prosesau a’ch arferion creadigol.
Dyma'r cwrs i chi os...
... Ydych eisiau datblygu eich sgiliau perfformio
... Ydych eisiau astudio ymhellach neu gael swydd yn y maes
... Ydych eisiau cwrs a fydd yn rhoi dealltwriaeth a phrofiad i chi
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn gwneud defnydd o dechnoleg mewn perfformio, yn dod i ddeall taflunio digidol, cyfansoddi cyfrifiadurol, a dylunio sain. Gyda chysylltiadau cryf â chyflogwyr yn y diwydiannau creadigol, nod y cwrs yma yw eich darparu gyda dealltwriaeth a phrofiad o faes y celfyddydau perfformiadol. Ar ddiwedd y cwrs fe allech fynd ymlaen i astudiaeth bellach neu symud yn syth i swydd lle gallwch ddefnyddio eich sgiliau creadigol a pherfformio.
Cewch gyfle i ddatblygu sgiliau creu perfformiad, ac archwilio’r berthynas rhwng dawns, drama a cherddoriaeth mewn ffurfiau fel theatr gorfforol a theatr gerdd. Byddwch yn creu prosiectau cyn-broffesiynol neu’n ymgymryd â lleoliadau gwaith, cewch gyfle i ddatblygu eich perfformiad llais a chwblhau ymchwil briodol a sgiliau astudio ar gyfer y celfyddydau perfformiadol.
Byddwch yn profi ystod o wahanol agweddau at astudio yn y celfyddydau perfformiadol, gan gynnwys trafod, ymarfer, gweithdai a dyfeisio perfformiad. Cewch gyflwyniad i sgiliau newydd yn ymwneud â thechnoleg a pherfformio, megis goleuo a recordio a dylunio sain cyfrifiadurol. Bydd angen i chi hefyd allu rheoli prosiectau a chyd-drafod gyda phartneriaid ac asiantaethau eraill.
Byddwch yn cael eich asesu trwy waith cwrs, perfformiad a chyflwyniadau ar-lein a byddwch yn cyflawni Gradd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformiadol
Beth a ddisgwylir ohonof i?
I gofrestru ar y cwrs hwn, byddwch angen llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth), a :
- 48 o bwyntiau UCAS - cyfrifiannell tariff UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
- Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Achos o Lwyddiant
Noder os nad ydych yn bodloni'r meini prawf gradd, gellir rhoi ystyriaeth i oed a phrofiad.
Mae ymrwymiad llawn i bresenoldeb yn angenrheidiol, yn ogystal â pharch tuag at eraill, brwdfrydedd tuag at y pwnc, gallu i gymell eich hun, gallu creadigol a dyhead i lwyddo.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mae yna ystod o yrfaoedd ar gael i chi ar ôl cwblhau’r Radd Sylfaen mewn Celfyddydau Perfformiadol. Gydag astudiaeth bellach, fe allech ystyried drama mewn addysg, adsefydlu neu therapi.
Gallech hefyd fynd ymlaen i astudio blwyddyn olaf y BA (Anrh) Theatr a Drama, neu BA (Anrh) Celfyddydau Perfformiadol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’n bosibl y gofynnir i ymgeiswyr fynychu cyfweliad, cymryd rhan mewn sesiwn gweithdy, neu gyflwyno portffolio o waith fel rhan o’r broses ddethol.
Breinir y cwrs yma gan Brifysgol De Cymru.
- Y cod UCAS yw: W303
- Cod y sefydliad: W01
- Cod y campws: G
Gallwch wneud cais uniongyrchol i’r coleg neu trwy UCAS ar gyfer y cwrs yma.
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
CFDG0031AB
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 19 Medi 2023
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr