Gradd Sylfaen mewn Hyfforddiant a Datblygiad Chwaraeon

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
21 Medi 2023

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Fel arfer, byddai'n rhaid i chi fod ag o leiaf un o'r canlynol: 

A: Llwyddo mewn tri phwnc TGAU ar radd C neu uwch, gan gynnwys Mathemateg ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth).

Sylwch, os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf gradd, yna efallai y gellir ystyried oedran a phrofiad.

Efallai y bydd angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS) os bydd eich darparwr lleoliad gwaith dewisol yn gofyn amdano.

Yn gryno

Byddwch yn dysgu’r sgiliau sydd eu hangen i gynllunio a darparu rhaglenni chwaraeon cymunedol a byddwch yn mynd ar nifer o leoliadau gwaith yn y diwydiant.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych yn dymuno dilyn gyrfa mewn hyfforddi cymunedol
... Rydych eisiau sydd yn y maes datblygiad chwaraeon
... Rydych eisiau cwrs ymarferol yn seiliedig ar theori

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae hyfforddi yn hanfodol i ddatblygiad chwaraeon ar lefel elitaidd ac mewn lleoliadau cymunedol. Trwy gyfuniad o astudio academaidd a dysgu ymarferol, byddwch yn datblygu dealltwriaeth o'r broses hyfforddi, yn ogystal ag ymwybyddiaeth o'r materion moesol, moesegol, amgylcheddol a chyfreithiol sy'n sail i arfer gorau yn yr amgylchedd hyfforddi a datblygu chwaraeon.


Byddwch yn cael eich dysgu trwy gyfuniad o ddarlithoedd, seminarau, sesiynau ymarferol a gwaith grwp, ac fe'ch asesir trwy arholiadau, aseiniadau, asesiadau ymarferol, cyflwyniadau a phrosiectau. Byddwch hefyd yn cwblhau modiwl yn seiliedig ar waith, lle byddwch yn rhoi’r hyn rydych wedi ei ddysgu yn yr ystafell ddosbarth ar waith yn y gweithle.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

I gael eich derbyn ar y cwrs, bydd angen o leiaf tri TGAU Gradd C neu uwch arnoch gan gynnwys Mathemateg / Mathemateg Rhifedd ac Iaith Saesneg (neu gyfwerth). Bydd angen o leiaf un o'r canlynol arnoch hefyd:

Sylwch, os nad ydych yn cwrdd â'r meini prawf gradd, yna efallai y gellir ystyried oedran a phrofiad.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Cyflogaeth mewn datblygu chwaraeon, hyfforddi, hyfforddiant ffitrwydd neu ymarfer corff a hybu iechyd. Gydag astudiaeth bellach gallwch hefyd fynd ymlaen i fod yn athro addysg gorfforol.

Gallwch ddewis mynd ymhellach i gael BSc (Anrh) Hyfforddi Chwaraeon neu BA (Anrh) Datblygu Chwaraeon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Caiff gwersi eu cynnal bob dydd Mawrth a dydd Iau, dros ddau ddiwrnod llawn.

Prifysgol De Cymru sy’n berchen ar ryddfraint y cwrs hwn.

Cit, £39. Gorfodol

DBS (Y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd): £57. Mae hyn yn orfodol, a rhaid iddo fod ar waith cyn dechrau’r rhaglen.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Gradd Sylfaen mewn Hyfforddiant a Datblygiad Chwaraeon ?

CFDG0057AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 21 Medi 2023

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr