Gradd Sylfaen mewn Astudiaethau Plentyndod

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Llawn Amser
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Dyddiad Cychwyn
20 Medi 2023
Gofynion Mynediad
Mae gofynion mynediad i gofrestru ar y cwrs hwn yn amrywio. Rhoddir ystyriaeth i oed a phrofiad blaenorol.
Efallai y bydd y gofynion yn cynnwys lleiafswm o 3 TGAU Gradd C neu uwch, (yn cynnwys Mathemateg a Saesneg Iaith neu gyfwerth) ac o leiaf un o'r canlynol fel arfer:
- 48 o bwyntiau UCAS - cyfrifiannell tariff UCAS https://www.ucas.com/ucas/tariff-calculator
- Mynediad i Addysg Uwch os ydych wedi ennill Diploma Llwyddo gyda 45 Llwyddo
Bydd angen gwiriad manylach gan y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd (DBS).
Yn gryno
Byddwch yn astudio'r agweddau proffesiynol o weithio mewn gofal plant, o gyfathrebu â chydweithwyr i ddeddfwriaeth a hawliau plant. Byddwch hefyd yn astudio pob agwedd ar blentyndod, o iechyd a datblygiad plant i addysg a chwarae.
Dyma'r cwrs i chi os...
...ydych eisiau cymryd y cam nesaf yn eich gyrfa
...rydych eisiau ennill cymwysterau ffurfiol ar lefel gradd
...rydych eisiau ehangu eich sgiliau, gwybodaeth a phrofiad mewn astudiaethau plant
Beth fyddaf yn ei wneud?
Bydd y cwrs hwn yn eich darparu â'r sgiliau, gwybodaeth a phrofiad sydd eu hangen arnoch i weithio'n llwyddiannus gyda phlant o bob oed. Byddwch hefyd yn datblygu rhinweddau personol megis hyblygrwydd a chymhelliant, sy'n hynod werthfawr yn y gweithle ac ar gyfer astudiaeth bellach.
Cewch eich asesu drwy amrywiaeth o aseiniadau a gweithgareddau ymarferol a fydd yn cael eu harsylwi yn eich amgylchedd.
Ar hyn o bryd mae ailddilysiad ar y gweill ar gyfer y cwrs hwn, ac felly gallai rhai modiwlau newid.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Bydd angen i chi sicrhau 300 awr mewn lleoliad gwaith, fel gwirfoddolwr neu gyflogaeth â thal.
Bydd disgwyl i chi ymrwymo i o leiaf 20 awr o astudiaeth annibynnol ar adegau allweddol o'r flwyddyn.
Byddwch yn mynd i'r coleg am un diwrnod llawn sy'n cychwyn yn y prynhawn bob wythnos.
Rhoddir ystyriaeth hefyd i brofiad yn y diwydiant.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Gyda’r sgiliau a’r profiad y byddwch yn eu datblygu ar y cwrs hwn, gallwch weithio mewn ystod o feysydd gofal plant.
Ar ôl cwblhau’r radd sylfaen yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen yn awtomatig i flwyddyn olaf y BSc (Anrh) mewn Astudiaethau Plentyndod ym Mhrifysgol De Cymru.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae gan ddysgwyr ym Mharth Dysgu Blaenau Gwent y dewis ychwanegol i astudio ar gyfer Diploma Lefel 5 City & Guilds mewn Gweithio gyda Phlant a Phobl, sydd yn ofynnol ar gyfer cydnabod sgiliau'r sector yn y maes hwn.
Rhoddir masnachfraint ar gyfer y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.
Y cod UCAS yw: LX53
Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.
Telerau a amodau
Darganfyddwch fwy
EFDG0013TB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 20 Medi 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr