En

Gwneud Gemwaith

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
11 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:00

Hyd

Hyd
5 wythnos

Yn gryno

A ydych chi erioed wedi codi carreg fach o’r traeth, wedi darganfod darn o wydr môr, wedi gweld gem led-werthfawr neu grisial ac wedi meddwl...rwy’n hoffi hwn ond beth wna i ag o? Peidiwch â’u cadw ar silff - trowch nhw yn ddarnau unigryw o emwaith wedi’u rhwymo â gwifrau!

Ymunwch â ni am gwrs 5 wythnos hwyliog ac ysbrydoledig. Byddwch yn cymryd rhan mewn cyfres o sesiynau ar ffurf gweithdy, a fydd yn eich cyflwyno i hanfodion rhwymo â gwifrau. Unwaith bydd y wybodaeth a’r technegau sylfaenol gennych, byddwch yn cael eich annog i ddylunio a chreu eich darn eich hun o emwaith unigryw gan ddefnyddio’r trysorau rydych wedi eu darganfod.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...dechreuwyr pur sydd ddim wedi gwneud gemwaith o’r blaen

... unrhyw un sydd eisiau dysgu rhywbeth newydd

...pobl greadigol sy’n chwilio am hobi creadigol.

Cynnwys y cwrs

Bydd y cwrs hwn yn eich cyflwyno i feysydd allweddol gemwaith wedi’i rwymo â gwifrau:

  • Hanfodion trin gwifren
  • Gwehyddu gwifrau
  • Rhwymo cerrig/gleiniau.

Erbyn diwedd y cwrs, dylech deimlo'n ddigon hyderus i allu defnyddio'r technegau a ddysgoch i ymestyn eich taith greadigol gyda’ch gemwaith - eich dychymyg yn unig sy’n eich cyfyngu!

Darperir yr holl offer angenrheidiol ynghyd â nifer gyfyngedig o wifrau ac ystod o leiniau/cerrig i ymarfer y technegau sylfaenol.

Bydd angen i chi brynu gwifrau a gleiniau/cerrig ychwanegol er mwyn cwblhau eich dyluniadau eich hun.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ar gyfer y cwrs hwn.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r Ysgol Celfyddydau Creadigol yn cynnig casgliad o gyrsiau gydol y flwyddyn.

Y cyrsiau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd yw:

  • Tecstilau
  • Cerameg
  • Gwneud Printiau
  • Ffotograffiaeth
  • Argraffu 3D
  • Ymarfer Llesiant Creadigol a'r Celfyddydau
  • Sgiliau DJ gan ddefnyddio Ableton Live
  • Y Celfyddydau Perfformio
  • Canu ar gyfer Pleser
  • Ysgrifennu Creadigol
  • Uwchgylchu Dodrefn a Chrefft
  • Gwneud Gemwaith
  • Lluniadu Digidol gan ddefnyddio Procreate
  • Lansio Menter/Busnes Creadigol

Bydd yr holl wifrau ac offer yn cael eu darparu.  Bydd angen i chi ddod â dewis o fwclis 6mm a 4mm yn ogystal â’ch eitemau eich hun i lapio weiren o’u cwmpas.  Er enghraifft - cerrig lliwgar lled-werthfawr, gwydr môr, cerrig bychain, cregyn.

Ble alla i astudio Gwneud Gemwaith?

CPCE3208AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 11 Medi 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr