Dyfarniad yng Nghelfyddyd Colur Ffotograffig

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£130.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
09 Ionawr 2024
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
18:00
Amser Gorffen
21:00
Hyd
9 wythnos
Yn gryno
Nod y cwrs hwn yw eich helpu i edrych ar wahanol fathau o golur mewn modd creadigol, yn edrych ar ei hanes, ysbrydoliaeth i gynllunio a sut i greu’r olwg yr ydych yn ei cheisio.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…rywun a chanddo ddawn greadigol i golur, diddordeb yn y theatr neu mewn colur ffilm, neu sydd eisiau dilyn gyrfa yn y diwydiant.
Cynnwys y cwrs
Cwrs ymarferol yw hwn yn edrych ar agweddau gwahanol o gynllunio colur, gan gynnwys:
- Colur Cyfnod – ymchwilio i hanes colur a chynllunio thema colur o’r 18fed Ganrif, y 1920au, 1950au a 1960au.
- Colur Ffantasi - ysbrydoliaeth i ymchwil, cynllunio a chreu colur ffantasi sy’n rhaid cynnwys addurniadau, gwisgoedd a gwallt.
- Colur Priodasol – enwi’r cynhyrchion a ddefnyddir a chymhwyso arddulliau colur prydferthwch amrywiol.
Gofynion Mynediad
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ond bydd rhaid i chi fod â diddordeb mewn gweithgareddau artistig a chreadigol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Disgwylir i chi brynu iwnifform a chyfarpar yn amod o’ch lle ar y cwrs. Cewch wybod mwy pan fyddwch chi’n cofrestru.
CPCE2776AC
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 09 Ionawr 2024
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr