Dylunio Celf Corff

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£130.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
27 Chwefror 2024
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
13:00
Amser Gorffen
16:00
Hyd
9 wythnos
Yn gryno
I’r bobl hynny a chanddynt elfen greadigol, mae’r cwrs hwn yn gyfle delfrydol i ddarganfod sut i gynllunio a chymhwyso celf y corff, gan ddefnyddio amrywiaeth o beintiau’r corff, gliterau, secwinau ac addurniadau eraill.Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…rywun a chanddo ddiddordeb mewn colur creadigol ac addurno’r corff.Cynnwys y cwrs
Gyda’r Dyfarniad YEHG Lefel 2 mewn Celf y Corff, byddwch yn dysgu am y broses greadigol, gan gynnwys sut i ddatblygu a chyflwyno bwrdd hwyliau, a defnyddio technegau fel cywiro lliw, asio, uwcholeuo, graddliwio, cerflunio, cuddio a chuddliw.
Hefyd, mae’r cwrs yn rhoi sylw i’r cynnyrch a’r offer a ddefnyddir i greu delwedd 2D ar arwynebedd 3D a phynciau eraill fel ymgynghori, arferion diogel a hylan a chyngor ôl-ofal.
Wedi i chi gwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen at Ddyfarniad YEHG Lefel 3 mewn Colur y Cyfryngau neu Ddyfarniad Lefel 3 mewn Cuddliw Cosmetig.Gofynion Mynediad
Nid oes angen cymwysterau ffurfiol ond bydd angen i chi fod â diddordeb mewn gweithgareddau artistig a chreadigol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Disgwylir i chi brynu iwnifform a chyfarpar yn amod o’ch lle ar y cwrs.
CPCE2776AB
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 27 Chwefror 2024
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr