Cyflwyniad i Wasanaethau Aeliau

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£60.00
Dyddiad Cychwyn
28 Tachwedd 2023
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
17:30
Amser Gorffen
20:30
Hyd
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio ar gyfer dysgwyr sy'n dymuno dysgu'r sgiliau a'r technegau sy’n rhan o siapio aeliau a darparu'r gwasanaeth poblogaidd hwn i gleientiaid. Bydd dysgwyr yn dod i ddeall asesu siâp a chyfrannau aeliau mewn perthynas â nodweddion wyneb, a sut i baratoi a darparu gwasanaethau siapio aeliau.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...Dechreuwyr heb unrhyw wybodaeth flaenorol am wasanaethau aeliau.
Cynnwys y cwrs
Bydd y cwrs yn ymdrin â thacluso, siapio ac ail-lunio aeliau, offer a chyfarpar, ymgynghori â chleientiaid, hylendid ac iechyd a diogelwch, ac ôl-ofal.
Asesir y cwrs trwy bortffolio o dystiolaeth, sy'n cynnwys gwaith ysgrifenedig a chofnodion cleientiaid, yn ogystal ag asesiad ymarferol o waith gyda chleientiaid. Mae cadarnhau cleientiaid i weithio gyda nhw, a chyflwyniad personol wrth weithio, yn rhan o'r meini prawf asesu ar gyfer y cwrs hwn.
Gofynion Mynediad
Nid oes unrhyw ofynion mynediad penodol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd dysgwyr yn cael gwybod am becyn bach o offer ar ddechrau'r cwrs.
NPCE3658AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 28 Tachwedd 2023
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr