En

Cyflwyniad i Golur Parti

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£35.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
29 Hydref 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:00

Hyd

Hyd
09:30 - 16:00

Yn gryno

Bydd y cwrs undydd hwn yn rhoi arweiniad gam wrth gam ar gyfer creu’r colur perffaith ar gyfer parti.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…y rhai sy’n ymddiddori mewn colur

…unrhyw un sy’n awyddus i ddysgu rhagor am y diwydiant ac am gyrsiau eraill

…y rhai sydd eisiau gwella’u technegau coluro presennol er mwyn dilyn y ffasiwn ddiweddaraf

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn dysgu sut i wneud y canlynol:

  • Glanhau eich croen trwy ddefnyddio technegau glanhau sylfaenol
  • Rhoi colur sylfaen, colur aroleuo a cholur cuddio yn y ffordd gywir
  • Rhoi colur ar y llygaid a’r gwefusau
  • Glanhau eich brwshis a’ch offer yn y ffordd gywir

Yn ystod y cwrs, byddwch yn rhoi colur ar eich croen eich hun fel ffordd o wella eich technegau – ni fydd yn ofynnol ichi weithio ar bobl eraill yn y dosbarth.

Gofynion Mynediad

Nid oes yna unrhyw ofynion ffurfiol ar gyfer y cwrs hwn, ond mae’n hanfodol ichi fod â diddordeb brwd yn y pwnc.

Gwybodaeth Ychwanegol

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yn ein stiwdio goluro bwrpasol. Mae cyrsiau undydd eraill i’w cael, yn cynnwys:

  • Cyflwyniad i Baentio Wynebau
  • Cyflwyniad i Effeithiau Arbennig (toriadau, cleisiau a chlwyfau)
  • Cyflwyniad i Guddliw Cosmetig
  • Cyflwyniad i Dechnegau Henna
  • Cyflwyniad i Driniaethau ar gyfer y Dwylo a’r Ewinedd
  • Cyflwyniad i Driniaethau ar gyfer y Llygaid
  • Cyflwyniad i Adweitheg
  • Cyflwyniad i Dylino’r Corff
Ble alla i astudio Cyflwyniad i Golur Parti?

CPCE3634AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 29 Hydref 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr