Cefnogi eich plentyn wrth iddynt astudio TGAU Saesneg

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
TGAU
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Dyddiad Cychwyn
16 Ionawr 2023
Dydd Llun
Amser Dechrau
18:00
Amser Gorffen
20:00
Hyd
15 wythnos
Yn gryno
Mae hwn yn gwrs ar gyfer rhieni neu warcheidwaid sy'n dymuno gwybod sut i gefnogi eu plentyn tra byddant yn astudio ar gyfer eu TGAU Saesneg Iaith, CBAC.
Bydd y cwrs yn rhoi’r offer a’r sgiliau i chi i helpu i ddatblygu gwybodaeth eich plentyn, a’i helpu i baratoi ar gyfer yr arholiadau ar ddiwedd y cwrs.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... rhieni a gwarcheidwaid sy'n ceisio helpu eu plant sy'n astudio TGAU Saesneg Iaith ar hyn o bryd.
… unrhyw un sydd eisiau deall beth fydd y cwrs TGAU Saesneg Iaith yn ei olygu a sut mae'n cael ei addysgu.
… pawb sydd am ddod o hyd i strategaethau ac adnoddau defnyddiol i gefnogi plant sy'n astudio TGAU Saesneg Iaith orau.
Cynnwys y cwrs
Byddwchynarchwiliocymhwyster TGAU Saesneg Iaith, CBAC a'rsgiliauaaddysgiriddisgyblion, wrthganolbwyntioarsut y gallwcheucefnogiiddatblygu'rsgiliauhyn.
Mae’rcwrshwnwedi’igynllunioihelpurhieni a gwarcheidwaidifeithrinhyder ac ymwybyddiaetho’rpwnc.
Bydd y cwrsyncynnwys y cydrannaucanlynol:
-
Cefnogi Darllen: bydd yr uned hon yn cynnwys nifer o sesiynau wedi'u neilltuo i sgiliau darllen penodol megis deall, dod i gasgliad, dadansoddi a chymharu. Byddwch yn llywio sut mae’r sgiliau hyn yn cael eu haddysgu a’r ffordd orau o ymgorffori’r rhain yn addysg eich plentyn.
-
Cefnogi Ysgrifennu: bydd yr uned hon yn canolbwyntio ar gamgymeriadau ysgrifennu cyffredin a wneir gan bobl ifanc. Bydd yn eich helpu i ddeall y gwallau hyn ac yn rhoi strategaethau clir i chi i fynd i'r afael â nhw gartref. Bydd yr uned hon hefyd yn edrych ar ddarnau o ysgrifennu estynedig a sut i gefnogi eich plentyn i gynllunio ar gyfer rhan ysgrifennu ei arholiad.
-
Cefnogi Llafaredd: bydd yr uned hon yn rhoi cymorth i chi adeiladu hyder eich plentyn wrth siarad a gwrando. Bydd yn canolbwyntio ar strategaethau trafodaeth grwp, yn ogystal ag edrych ar sut i baratoi a chyflwyno cyflwyniadau i gynulleidfa.
Gofynion Mynediad
Mae'r cwrs hwn ar gael i unrhyw rieni neu warcheidwaid sydd am fod yn rhagweithiol wrth gefnogi eu plant wrth astudio TGAU Saesneg Iaith. Nid oes angen unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Prif ffocws y cwrs hwn fydd darparu’r strategaethau sydd eu hangen arnoch i helpu’ch plentyn y gorau y gallwch wrth baratoi ar gyfer ei asesiadau TGAU Saesneg Iaith.
Gall y cwrs hwn gael ei gyflwyno o bell; gallai hyn eich galluogi i gael mynediad at yr adnoddau a'r deunyddiau o'ch cartref yn hytrach na mynychu un o'n campysau
NECE3626AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 16 Ionawr 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr