YMCA Dyfarniad YMCA mewn Hyfforddi Ymarfer Corff Grwp: Ymarfer Corff i Gerddoriaeth - Arddull Rydd Lefel 2

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£95.00
Dyddiad Cychwyn
14 Ionawr 2024
Dydd Sadwrn a Dydd Sul
Amser Dechrau
09:00
Amser Gorffen
15:30
Hyd
3 wythnos
Yn gryno
Mae'r cwrs hwn yn ychwanegiad gwych at eich portffolio cymwysterau ffitrwydd. Cewch gasglu syniadau newydd ynghylch sut y gallwch ychwanegu mwy o amrywiaeth at eich sesiynau ymarfer corff grwp ac ychwanegu ychydig o'ch personoliaeth eich hun at eich sesiynau gydag ymarfer corff i gerddoriaeth arddull rydd.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unigolion sy'n dymuno dylunio a chyflwyno sesiynau ymarfer camu i gerddoriaeth diogel ac effeithiol.
...unrhyw un sydd yn frwd dros addysgu ymarfer corff grwp ac yn mwynhau addysgu i guriad a strwythur y gerddoriaeth.
Cynnwys y cwrs
Bydd dysgwyr yn datblygu'r wybodaeth, y sgiliau a'r ymddygiadau i ddod yn arweinydd ymarfer corff grwp, o fewn cyd-destun, gan fodloni gofynion y diwydiant sydd wedi'u nodi yn safon broffesiynol graidd ymarfer corff grwp CIMSPA. Ar gyfer Dyfarniad Lefel 2 YMCA mewn Hyfforddi Ymarfer Corff Grwp: Arddull Rydd, rhaid i ddysgwyr gyflawni 2 uned orfodol:
- Egwyddorion cynllunio a chyflwyno sesiynau ymarfer corff grwp
- Cynllunio a chyflwyno ymarfer corff grwp mewn dwr
Mae’r cwrs hwn wedi’i gymeradwyo gan y Sefydliad Siartredig ar gyfer Rheoli Chwaraeon a Gweithgarwch Corfforol (CIMSPA).
Fel rhan o'r cwrs hwn, byddwch yn astudio:
- Sut i ddylunio ac addysgu sesiynau ymarfer camu i gerddoriaeth diogel ac effeithiol
- Egwyddorion cynhesu i fyny, y gromlin aerobig ac oeri
- Gweithio i gerddoriaeth
- Cymell cyfranogwyr
- Amrywiaeth o sgiliau addysgu grwp
- Sut i ymateb i faterion iechyd a diogelwch.
Byddwch yn cael eich asesu drwy waith cwrs ac asesiad ymarferol.
Gofynion Mynediad
Rhaid i chi fod wedi cwblhau Tystysgrif Lefel 2 mewn Hyfforddiant Ffitrwydd i gael lle ar y cwrs hwn, neu fod wedi cwblhau'r unedau gorfodol canlynol:
- Anatomeg a ffisioleg ar gyfer hyfforddwyr ymarfer corff a ffitrwydd
- Darparu profiad cwsmer cadarnhaol yn yr amgylchedd ymarfer corff
- Rheoli ffordd o fyw ac ymwybyddiaeth iechyd
Gwybodaeth Ychwanegol
Achrediad: 16 o bwyntiau CPD REPs.
Dilyniant: Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallwch fynd ymlaen i astudio Dyfarniad Lefel 2 YMCA mewn Hyfforddiant Gwrthiant Stiwdio.
UCCE3579AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 14 Ionawr 2024
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr