En

AAT Tystysgrif mewn Cadw Cyfrifon Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Cyfrifeg, Busnes a’r Gyfraith

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Mae'n hanfodol eich bod wedi cyflawni un o’r canlynol:

  • Tystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cadw Cyfrifon

neu

  • Gyfrifeg Lefel 2 AAT

Yn gryno

Mae'r Dystysgrif Lefel 3 mewn Cadw Cyfrifon yn adeiladu ar sgiliau a gwybodaeth bresennol at lefel uwch ar gyfer unrhyw un sy'n dymuno dilyn gyrfa mewn Cadw Cyfrifon.

Mae’r cymhwyster yn cynnig llwybr dilyniant ar gyfer myfyrwyr sydd eisoes â dealltwriaeth o gadw cyfrifon, i gael eu penodi mewn rôl cadw cyfrifon, neu i symud ymlaen at astudiaeth bellach.

Dyma'r cwrs i chi os...

... rydych wedi cwblhau cymhwyster Lefel 2 AAT mewn Cyfrifeg neu Dystysgrif Lefel 2 AAT mewn Cadw Cyfrifon.

... rydych yn awyddus i ddatblygu eich sgiliau cadw cyfrifon er mwyn symud ymlaen at gyflogaeth yn gyflym, neu i wella eich sgiliau cadw cyfrifon.

... rydych eisiau dechrau gyda'r cymhwyster hwn cyn symud ymlaen at Ddiploma Lefel 3 mewn Cyfrifeg, er mwyn ennill gwell dealltwriaeth o gyfrifeg.

Beth fyddaf yn ei wneud?

Drwy gwblhau’r cymhwyster hwn, byddwch yn datblygu’r sgiliau sydd eu hangen arnoch chi ar gyfer prosesau ariannol, gan gynnwys cysyniadau a hanfodion cyfrifeg, cadw cyfrifon uwch a pharatoi datganiadau ariannol. Byddwch hefyd yn deall materion busnes o ran cyflogres a threth ar werth (TAW). Byddwch yn dysgu hyn i gyd yng nghyd-destun y materion moesegol a all godi ym mywyd proffesiynol unigolyn sy’n cadw cyfrifon.

Mae'r cymhwyster hwn yn cynnwys dwy uned hanfodol:

  • Cyfrifyddu Ariannol: Paratoi Datganiadau Ariannol
  • Prosesau Treth ar gyfer Busnesau

Mae'r ddwy uned yn cael eu hasesu’n unigol drwy asesiadau diwedd uned ar gyfrifiadur.

Wrth ddatblygu’r cymhwyster hwn, mae AAT wedi ymgynghori’n helaeth ag 

amrywiaeth eang o randdeiliaid, gan gynnwys arbenigwyr diwydiant, cyflogwyr a darparwyr hyfforddiant, sydd hefyd wedi cynnig mewnbwn. Caiff AAT ei gydnabod yn fyd-eang, a’i werthfawrogi gan gyflogwyr blaenllaw, o fusnesau bach y stryd fawr i fusnesau cyfrifeg mawr.

Byddwch hefyd yn astudio Tystysgrif Lefel 3 Sefydliad Bancio a Chyllid Llundain (LIBF) mewn Astudiaethau Ariannol (ceFS).

Mae’r cwrs hwn yn annog myfyrwyr i feithrin sgiliau cyfrifol a synhwyrol wrth fenthyca ac arbed arian, ac i werthfawrogi bod angen cynlluniau ariannol drwy gydol eu bywydau.

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Mae TGAU gradd C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg yn ddymunol.

Ar ôl dechrau'r cwrs, bydd angen i chi ymrwymo’n llawn i bresenoldeb, dangos parch at eraill, bod yn frwdfrydig ac yn hunanysgogol.

Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus drwy aseiniadau ac arholiadau, a byddwch yn awyddus i barhau â’ch astudiaethau a'ch gwaith cwrs ar eich liwt eich hun.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn yn llwyddiannus, gallwch symud ymlaen at Ddiploma Cyfrifeg Lefel 3 AAT.

Gwybodaeth Ychwanegol

I astudio cwrs AAT, mae angen i chi gofrestru ag AAT fel myfyriwr. Bydd y coleg yn talu am eich cofrestriad AAT. Bydd angen i chi hefyd ymrestru â’r coleg.

Bydd angen i chi brynu llyfrau gwaith, gwerth tua £45.00. Bydd gofyn i chi hefyd dalu blaendal o £35.00 ar gyfer llyfrau tiwtorial. Bydd eich blaendal yn cael ei ad-dalu ar ddiwedd y flwyddyn academaidd, cyn belled â bod y llyfrau’n cael eu dychwelyd mewn cyflwr da.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio AAT Tystysgrif mewn Cadw Cyfrifon Lefel 3?

NFCE3555AA
Campws Dinas Casnewydd
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr