Cwrs Paratoi ar gyfer Mynediad

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen
Ffioedd
AM DDIM
Dyddiad Cychwyn
27 Mehefin 2023
Dydd Mawrth
Hyd
6 wythnos
Yn gryno
Mae'r cwrs Cyn-Mynediad i Nyrsio a Bydwreigiaeth wedi'i ddylunio i roi'r sgiliau a'r cymwysterau sydd eu hangen arnoch i fynd ymlaen i'r Cwrs Mynediad i Nyrsio.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...y rhai sydd eisoes yn gweithio ym Maes Gofal
...dysgwyr sy’n dymuno ailhyfforddi sy’n awyddus i gael gyrfa yn y dyfodol mewn Nyrsio/Bydwreigiaeth neu Astudiaethau Parafeddyg.
Cynnwys y cwrs
Bydd y cwrs yn rhoi cipolwg i chi ar y cymhwyster Mynediad at Nyrsio ac yn darparu’r wybodaeth sylfaenol a fydd ei hangen arnoch. Bydd y cwrs hefyd yn eich helpu i ddatblygu sgiliau megis ymchwil, llyfryddiaeth, ysgrifennu academaidd a sgiliau cyflwyno. Bydd y sgiliau hyn oll o gymorth i’ch paratoi i ymgymryd â rhaglen Lefel 3.
Gofynion Mynediad
Rhoddwn ystyriaeth unigol a gofalus i bob cais. Mae gradd A* - C mewn TGAU Saesneg Iaith yn hanfodol a rhaid darparu tystiolaeth cyn cofrestru. Rhaid i ddysgwyr fod wedi gadael addysg lawn amser ers tair blynedd cyn astudio'r cwrs hwn.
Rydym hefyd yn disgwyl gweld sgiliau rhyngbersonol da, ymrwymiad i'r maes astudiaeth a brwdfrydedd a dealltwriaeth o'ch llwybr gyrfa dewisol.
Mae'r cwrs wedi’i ddylunio ar gyfer y rhai sydd eisoes mewn cyflogaeth a/neu unigolion sydd â diddordeb mewn ailhyfforddi i symud ymlaen i’r brifysgol a chwilio am gyflogaeth yn y Sector Iechyd.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae Coleg Gwent yn benderfynol o hyrwyddo cydraddoldeb cyfleoedd. Noder os gwelwch yn dda, dim ond os oes digon o niferoedd y gellir cynnal y cwrs.
PPCE3550AA
Parth Dysgu Torfaen
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 27 Mehefin 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr