En

Torri â Laser ac Argraffu 3D

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Ffioedd

Ffioedd
£40.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
17 Ebrill 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:00

Hyd

Hyd
5 wythnos

Yn gryno

Ydych chi am greu fersiwn o’ch hoff gêm fwrdd a wnaethpwyd â llaw? Ydych chi am greu byrddau unigryw a darnau chwarae ar gyfer dyluniad eich hun o gêm fwrdd ? Efallai eich bod am greu tir sy’n edrych yn broffesiynol ar gyfer eich brwydrau pen bwrdd. Dyma'r cwrs i chi!

Yn y cwrs saernïo digidol hwn byddwn yn mynd dros hanfodion Modelu 3D, Argraffu 3D a thorri Laser. Mae'r cwrs hwn wedi'i gynllunio i ddechreuwyr gael dealltwriaeth o sut i brototeipio syniadau ar gyfer gemau pen bwrdd. Bydd y cwrs yn canolbwyntio ar feithrin sgiliau a hyder gan ddefnyddio ystod o argraffwyr 3D, meddalwedd modelu, torwyr Laser a meddalwedd ddylunio sy'n eich galluogi i gael y gorau o'ch argraffydd 3D a'ch torrwr Laser fel hobi neu ar gyfer busnes.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... unrhyw un sydd am ddysgu am argraffu 3D a thorri laser ar gyfer hobïau, fel gwneud modelau a gemau pen bwrdd i grefftau, dylunio cynnyrch a pheirianneg.

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn ymdrin â:

  • Dylunio eich modelau 3D eich hun yn Autodesk Maya a Blender
  • Dylunio eich byrddau gemau eich hun a defnyddio torrwr laser i dorri nhw ar ddalennau o bren haenog neu rai acrylig
  • Meistroli gosodiadau meddalwedd “sleisio” priodol ar gyfer y canlyniadau printio gorau
  • Sefydlu eich argraffydd ar gyfer adlyniad haen gyntaf da
  • Dod o hyd i ffeiliau parod am ddim i'w lawrlwytho a'u hargraffu eich hun
  • Cael argymhellion ar ba argraffydd a meddalwedd “sleisio” i ddechrau gyda
  • Creu graffeg fector a chanllawiau torri ar gyfer ystod o ddeunyddiau dalen wastad

Bydd y cwrs hwn yn mynd â chi ar daith trwy'r broses o brototeipio gêm pen bwrdd gyfan - o ddylunio eich modelau 3D eich hun ar feddalwedd ddylunio 3D, i wedyn eu paratoi i'w hargraffu yn y feddalwedd “sleisio”, ac yn olaf argraffu darnau neu ffigurau’r gemau. Bydd y cwrs hwn yn dangos i chi gam wrth gam o'r dechrau i'r diwedd sut mae'r broses argraffu 3D gyfan yn gweithio. Gall edrych yn llethol, ond mewn gwirionedd mae'n anhygoel o syml ac yn hawdd i'w wneud.

Bydd angen i chi fod yn bresennol yn rheolaidd ac yn frwdfrydig dros y pwnc.

Gofynion Mynediad

Bydd gofyn i chi feddu ar wybodaeth sylfaenol am ddefnyddio cyfrifiadur personol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r Ysgol Celfyddydau Creadigol yn cynnig casgliad o gyrsiau gydol y flwyddyn.

Y cyrsiau rydym yn eu cynnig ar hyn o bryd yw:

  • Tecstilau
  • Cerameg
  • Gwneud Printiau
  • Ffotograffiaeth
  • Argraffu 3D
  • Ymarfer Llesiant Creadigol a'r Celfyddydau
  • Sgiliau DJ gan ddefnyddio Ableton Live
  • Y Celfyddydau Perfformio
  • Canu ar gyfer Pleser
  • Ysgrifennu Creadigol
  • Uwchgylchu Dodrefn a Chrefft
  • Gwneud Gemwaith
  • Lluniadu Digidol gan ddefnyddio Procreate
  • Lansio Menter/Busnes Creadigol

Ar ôl i'r cwrs hwn bydd llwybr dilyniant i chi gofrestru ar y cwrs saernïo digidol Uwch.

Ble alla i astudio Torri â Laser ac Argraffu 3D?

CCCE3516AD
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 17 Ebrill 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr