En

EDEXCEL Astudiaeth Alwedigaethol, Twf a Llesiant Personol Lefel Mynediad 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar

Lefel

Lefel
Entry 3

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
06 Tachwedd 2023

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.

Yn gryno

Mae'r cwrs hwn yn un delfrydol os nad ydych yn rhy siwr ynghylch coleg neu addysg bellach. Yn ogystal â'ch cyflwyno i'r coleg a bywyd coleg, bydd y cwrs yn rhoi'r cyfle ichi gael blas ar o leiaf dau wahanol faes galwedigaethol yn ystod eich blwyddyn gyntaf.

Dyma'r cwrs i chi os...

... Ydych yn ansicr beth ydych eisiau ei wneud nesaf

... Ydych eisiau gweld ai coleg yw'r dewis iawn i chi

... Ydych eisiau datblygu sgiliau personol a chymdeithasol i'ch paratoi'n well ar gyfer eich bywyd gwaith

Beth fyddaf yn ei wneud?

Byddwch yn ymarfer sgiliau a thechnegau mewn amgylcheddau realistig, tebyg i fyd gwaith, yn y coleg, i roi blas ichi ar y gweithle a sut beth yw astudio un o'r llwybrau ar sail amser llawn.

  • Busnes
  • Sgiliau Digidol
  • TGCh
  • Gwasanaethau Cyhoeddus
  • Chwaraeon

Byddwch hefyd yn astudio pynciau sy'n helpu eich datblygiad personol a chymdeithasol, gan gynnwys:

  • Delio â Phroblemau Bywyd Dydd i Ddydd
  • Rheoli Perthnasoedd Cymdeithasol
  • Rheoli Risg o ran Iechyd, Llesiant a Diogelwch Personol
  • Perthnasoedd Personol a Chymdeithasol
  • Deall Hunaniaeth Bersonol
  • Ffyrdd Iach o Fyw
  • Gweithredu Cymunedol
  • Sut a Pham mae Busnesau'n Gweithredu
  • Cynilo a Gwario
  • Benthyca Arian a Rheoli Risg

Drwy gydol y cwrs, byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau, tasgau ac asesiadau ymarferol i gyflawni, yn y pen draw:

  • Tystysgrif BTEC Lefel 2 mewn Datblygiad Personol a Chymdeithasol
  • Tystysgrif Lefel 1 Prince's Trust mewn Datblygiad Personol a Sgiliau Cyflogadwyedd
  • Gweithgareddau Sgiliau (os nad oes gennych Radd C neu uwch mewn Mathemateg a Saesneg/Cymraeg Iaith Gyntaf, yna bydd angen ichi fynychu gwersi sgiliau ochr yn ochr â'ch astudiaethau)
  • Cymwysterau perthnasol eraill i gyfoethogi eich set sgiliau

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, ond bydd angen ichi fod yn frwdfrydig, yn weithgar ac yn barod i roi cynnig ar bob un o'r opsiynau galwedigaethol. Bydd hefyd angen ymrwymiad i bresenoldeb llawn a bod yn brydlon i bob sesiwn. Bydd myfyrwyr sy'n dewis y llwybr hwn wedi cael graddau TGAU D-G, o bosib. Efallai y bydd rhai wedi cal graddau uwch na hynny ond eu bod yn ansicr ynghylch y llwybr maent eisiau ei ddilyn.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Mae'r cymhwyster hwn yn rhoi'r cyfle ichi ddatblygu sgiliau defnyddiol, trosglwyddedig mewn cwblhau tasgau i'ch helpu i symud ymlaen at ddysgu pellach. Os ydych yn penderfynu bod un o'r meysydd galwedigaethol ar eich cyfer chi, gallwch barhau â'ch astudiaethau ar Lefel 2/3.

Gwybodaeth Ychwanegol

Efallai y bydd costau ychwanegol yn codi yn ystod y flwyddyn ar gyfer ymweliadau addysgol, ac efallai y bydd arnoch angen offer diogelwch ar gyfer rhai o'r meysydd galwedigaethol. Bydd hyn yn cael ei drafod pan fyddwch yn dewis eich opsiynau galwedigaethol ac ni ddylai gostio mwy na £35.00.

Ble alla i astudio EDEXCEL Astudiaeth Alwedigaethol, Twf a Llesiant Personol Lefel Mynediad 3?

EFCE3489NV
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 06 Tachwedd 2023

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr