Datblygu Sgiliau Marchogaeth - Paratoi at Gamau 2 Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS)

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£75.00
Dyddiad Cychwyn
07 Chwefror 2024
Dydd Mercher
Amser Dechrau
17:00
Amser Gorffen
20:00
Hyd
10 wythnos
Gofynion Mynediad
Er nad oes gofynion mynediad ffurfiol, dylech fod â sgiliau marchogaeth digonol, yn cynnwys y gallu i gerdded, trotian a rhygyngu mewn cydbwysedd â'r ceffyl. Mae’n rhaid i ymgeiswyr allu marchogaeth y tu allan mewn man agored, neidio dros ffensys sengl a chwrs bychan o 75cm.
Dylai dysgwyr fod yn 19 oed o leiaf a bydd disgwyl iddynt fod yn bresennol mewn asesiad marchogaeth cyn cychwyn y cwrs.
Yn gryno
Y cwrs hwn yw’r dilyniant delfrydol wedi i chi gwblhau eich Cam 1 BHS. Dros gyfnod o 10 wythnos, byddwch yn mynd i’r afael â’r holl elfennau ymarferol a theori sydd eu hangen i baratoi at y cymhwyster Cam 2 Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS).
Dyma'r cwrs i chi os...
…Y sawl sy’n edrych i ddatblygu drwy lwybrau BHS
…Perchnogion ceffylau brwdfrydig sydd eisiau datblygu eu sgiliau
…Unrhyw un sydd eisiau sefyll arholiad Cam 2 Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS)
…Y sawl sy’n ystyried neu eisiau dechrau gyrfa yn y diwydiant ceffylau.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol yn cynnwys:
- Ystum marchogaeth sylfaenol
- Rymudiadau cynradd wrth gerdded, trotian a rhygyngu
- Marchogaeth heb wartholion
- Gweithio ar gyfrwy ysgafn
- Gwaith polyn
Wrth i'r cwrs ddatblygu byddwch yn datblygu sgiliau pellach ar y gwastad a dros ffensiau.
Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth eang am ofal ceffylau yn cynnwys:
- Sgiliau trin
- Iechyd ceffylau
- Bwydo
- Rheolaeth stabl sylfaenol
- Cymorth cyntaf ar gyfer ceffylau
- Rhaglenni gwaith a gwella ffitrwydd
- Arddangos ceffylau
- Ffitio cyfrwyau
- Teithio gyda cheffyl yn ddiogel
Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn sesiynau marchogaeth ymarferol a gofal, ac wedi i chi ei gwblhau cewch dystysgrif Coleg Gwent.
Er mwyn ehangu eich gwybodaeth ymhellach, gallech symud ymlaen at Ddatblygiad Sgiliau Marchogaeth, Paratoi ar gyfer Cam 3 BHS.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Bydd disgwyl i chi ddarparu eich het marchogaeth eich hun i'r safonau diogelwch cyfredol, clôs pen-glin (jodhpurs) ac esgidiau.
Mae Cam 1 a 2 y BHS yn asesiadau a osodwyd yn allanol.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Datblygu sgiliau marchogaeth – Paratoi ar gyfer Cam 3 BHS.
Gwybodaeth Ychwanegol
Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg gan un o’n hyfforddwyr BHS cymwys ac fe’i cynhelir gyda’r nos, 5pm – 8pm am 10 wythnos.
Byddwch angen het farchogaeth addas sy'n cyrraedd safonau diogelwch presennol, esgidiau marchogaeth, chlôs pen-glin, menig a charn farchogaeth.
Noder: mae'r cwrs hwn wedi ei ddylunio i baratoi dysgwyr ar gyfer cymwysterau Cam 2 BHS, fodd bynnag nid yw'r cwrs yn cynnwys arholiad.
UPCE3304AC
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 07 Chwefror 2024
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr