Datblygu Sgiliau Marchogaeth - Paratoi at Gamau 2 Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS)

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Brynbuga

Ffioedd

Ffioedd
£75.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
07 Chwefror 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
17:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:00

Hyd

Hyd
10 wythnos

Yn gryno

Y cwrs hwn yw’r dilyniant delfrydol wedi i chi gwblhau eich Cam 1 BHS. Dros gyfnod o 10 wythnos, byddwch yn mynd i’r afael â’r holl elfennau ymarferol a theori sydd eu hangen i baratoi at y cymhwyster Cam 2 Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…Y sawl sy’n edrych i ddatblygu drwy lwybrau BHS

…Perchnogion ceffylau brwdfrydig sydd eisiau datblygu eu sgiliau

…Unrhyw un sydd eisiau sefyll arholiad Cam 2 Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS)

…Y sawl sy’n ystyried neu eisiau dechrau gyrfa yn y diwydiant ceffylau.

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn datblygu amrywiaeth o sgiliau ymarferol yn cynnwys:  

  • Ystum marchogaeth sylfaenol
  • Rymudiadau cynradd wrth gerdded, trotian a rhygyngu
  • Marchogaeth heb wartholion
  • Gweithio ar gyfrwy ysgafn
  • Gwaith polyn  

Wrth i'r cwrs ddatblygu byddwch yn datblygu sgiliau pellach ar y gwastad a dros ffensiau.

Byddwch hefyd yn datblygu gwybodaeth eang am ofal ceffylau yn cynnwys:

  • Sgiliau trin
  • Iechyd ceffylau
  • Bwydo
  • Rheolaeth stabl sylfaenol
  • Cymorth cyntaf ar gyfer ceffylau
  • Rhaglenni gwaith a gwella ffitrwydd
  • Arddangos ceffylau
  • Ffitio cyfrwyau
  • Teithio gyda cheffyl yn ddiogel

Bydd disgwyl i chi gymryd rhan mewn sesiynau marchogaeth ymarferol a gofal, ac wedi i chi ei gwblhau cewch dystysgrif Coleg Gwent.

Er mwyn ehangu eich gwybodaeth ymhellach, gallech symud ymlaen at Ddatblygiad Sgiliau Marchogaeth, Paratoi ar gyfer Cam 3 BHS.

Gofynion Mynediad

Er nad oes gofynion mynediad ffurfiol, dylech fod â sgiliau marchogaeth digonol, yn cynnwys y gallu i gerdded, trotian a rhygyngu mewn cydbwysedd â'r ceffyl. Mae’n rhaid i ymgeiswyr allu marchogaeth y tu allan mewn man agored, neidio dros ffensys sengl a chwrs bychan o 75cm.

Dylai dysgwyr fod yn 16 oed o leiaf a bydd disgwyl iddynt fod yn bresennol mewn asesiad marchogaeth cyn cychwyn y cwrs.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae’r cwrs hwn yn cael ei redeg gan un o’n hyfforddwyr BHS cymwys ac fe’i cynhelir gyda’r nos, 5pm – 8pm am 10 wythnos.

Byddwch angen het farchogaeth addas sy'n cyrraedd safonau diogelwch presennol, esgidiau marchogaeth, chlôs pen-glin, menig a charn farchogaeth.

Noder: mae'r cwrs hwn wedi ei ddylunio i baratoi dysgwyr ar gyfer cymwysterau Cam 2 BHS, fodd bynnag nid yw'r cwrs yn cynnwys arholiad.

Ble alla i astudio Datblygu Sgiliau Marchogaeth - Paratoi at Gamau 2 Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS)?

UPCE3304AC
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 07 Chwefror 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr