Datblygu Sgiliau Marchogaeth - Paratoi ar gyfer Cam 3 BHS

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Astudiaethau Tir, Gofal Anifeiliaid a Cheffylau
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Brynbuga
Ffioedd
£75.00
Dyddiad Cychwyn
11 Ebrill 2024
Dydd Iau
Amser Dechrau
17:00
Amser Gorffen
20:00
Hyd
6 wythnos
Gofynion Mynediad
Dylech fod wedi cwblhau a llwyddo yn y cwrs Datblygu Sgiliau Marchogaeth - Paratoad Sylfaenol at Gam 2 Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS), arholiad Cam 2 BHS neu'n meddu ar sgiliau cyfwerth.
Yn gryno
I wella eich sgiliau marchogaeth a gwybodaeth am ofal ceffylau y tu hwnt i Gam 2 Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS), mae'r cwrs hwn yn eich paratoi chi ar gyfer cymhwyster Cam 3 (BHS) ac yn mynd i'r afael ag amrywiaeth o bynciau ymarferol a damcaniaethol.
Dyma'r cwrs i chi os...
...unrhyw un sydd yn berchen ar geffyl
...gwella eich sgiliau marchogaeth
...gweithio gyda cheffylau ar fferm neu mewn stablau.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Gan barhau o Ddatblygu Sgiliau Marchogaeth - Cam 2, bydd y cwrs hwn yn cael ei gynnal yng nghanolfan farchogol Brynbuga (canolfan arholi wedi ei chymeradwyo gan Gymdeithas Geffylau Prydain (BHS) a bydd yn cynnwys) y canlynol:
Mae pob sesiwn yn cynnwys gwers farchogaeth yn ymdrin â:
Marchogaeth ar y gwastad
- Arwain y ceffylau i fynd ar y gwastad yn gywir
- Sut i asesu ceffylau
Neidio
- Neidio o amgylch cyfres o ffensiau hyd at 1m
- Traws gwlad dros ffensiau solet hyd at 90cm
Tywys
- Tywys er mwyn ymarfer yn effeithiol
Gofal ceffylau
- Gofalu am geffylau sy'n cystadlu
- Gwybodaeth am gydffurfiad ac anatomi
- Gofynion iechyd a bwydo ar gyfer amrywiaeth o geffylau.
Bydd angen i chi ddarparu eich het farchogaeth ac amddiffynnydd corff eich hun, a ddylai gydymffurfio â safonau BHS, yn ogystal â chlôs pen-glin a botasau marchogaeth. Nid yw'r cwrs yn cynnwys cymhwyster swyddogol, ond bydd yn eich paratoi ar gyfer asesiad Cam 3 Cymdeithas Geffylau Prydain (BHS)- ac wedi hynny, gallwch symud ymlaen at Gam 4 BHS.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Mae Cam 3 y BHS yn asesiad a osodir yn allanol.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Hynt Cam 4 y BHS.
Gwybodaeth Ychwanegol
Cynhelir y cwrs ar ddydd Mercher 6.00yh - 9.00yh am gyfnod o 10 wythnos ac mae'n costio £250.00.
UPCE3241AA
Campws Brynbuga
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 11 Ebrill 2024
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr