Chwythsychu

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
AM DDIM
Dyddiad Cychwyn
18 Ionawr 2024
Dydd Iau
Amser Dechrau
16:00
Amser Gorffen
19:00
Hyd
3 wythnos
Yn gryno
Dysgwch sut i greu steiliau gwallt bywiog ac esmwyth, heb ffris gan ddefnyddio technegau chwythsychu a steilio, gan ddefnyddio'r offer gwallt a chynnyrch steilio cywir i roi edrychiad proffesiynol i'ch gwallt.Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...dechreuwyr sydd â diddordeb mewn chwythsychu, steilio a gorffennu gwallt. ...trinwyr gwallt sy'n awyddus i ddiweddaru eu sgiliau.Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs yn ymdrin â:
- Iechyd a Diogelwch
- Dadansoddi gwallt a chroen pen
- Siampw a chyflyru
- Argymell cynnyrch
- Ôl-ofal a chyfarwyddyd prisiau
- Arddangos technegau sychu gwahanol
Mae technegau sychu yn cynnwys defnyddio gefelau gwallt, sychwyr ac offer cyrlio. Byddwch yn ymarfer ar bennau â gwallt hir a byr neu fodelau go iawn os oes well gennych.
Byddwch yn cael eich asesu'n anffurfiol ac yn cael adborth ar lafar gan eich tiwtor yn y dosbarth, ac ar ôl cwblhau'r cwrs gallech fynd ymlaen i gyrsiau eraill heb gymhwyster neu gwrs yn seiliedig ar gymhwyster.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, mae diddordeb yn y
pwnc yn ddigon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Byddwn yn cyflenwi deunyddiau megis blociau a stondinau pennau, ond bydd angen i chi brynu eich brwsys a chribau y gellir eu prynu yn eich sesiwn gyntaf ac sy'n costio oddeutu £10.00. Efallai y dymunech ddod â'ch brwsys a chribau eich hun, ac efallai byddai well gennych wisgo barclod.
EPCE3212AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 18 Ionawr 2024
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr