En

Chwythsychu

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Ffioedd

Ffioedd
£30.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
16 Ionawr 2025

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Iau
Amser Dechrau

Amser Dechrau
16:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
19:00

Hyd

Hyd
3 wythnos

Yn gryno

Dysgwch sut i greu steiliau gwallt bywiog ac esmwyth, heb ffris gan ddefnyddio technegau chwythsychu a steilio, gan ddefnyddio'r offer gwallt a chynnyrch steilio cywir i roi edrychiad proffesiynol i'ch gwallt.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...dechreuwyr sydd â diddordeb mewn chwythsychu, steilio a gorffennu gwallt. ...trinwyr gwallt sy'n awyddus i ddiweddaru eu sgiliau.

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs yn ymdrin â:

  • Iechyd a Diogelwch
  • Dadansoddi gwallt a chroen pen
  • Siampw a chyflyru
  • Argymell cynnyrch
  • Ôl-ofal a chyfarwyddyd prisiau
  • Arddangos technegau sychu gwahanol

Mae technegau sychu yn cynnwys defnyddio gefelau gwallt, sychwyr ac offer cyrlio. Byddwch yn ymarfer ar bennau â gwallt hir a byr neu fodelau go iawn os oes well gennych.

Byddwch yn cael eich asesu'n anffurfiol ac yn cael adborth ar lafar gan eich tiwtor yn y dosbarth, ac ar ôl cwblhau'r cwrs gallech fynd ymlaen i gyrsiau eraill heb gymhwyster neu gwrs yn seiliedig ar gymhwyster.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, mae diddordeb yn y pwnc yn ddigon.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwn yn cyflenwi deunyddiau megis blociau a stondinau pennau, ond bydd angen i chi brynu eich brwsys a chribau y gellir eu prynu yn eich sesiwn gyntaf ac sy'n costio oddeutu £10.00. Efallai y dymunech ddod â'ch brwsys a chribau eich hun, ac efallai byddai well gennych wisgo barclod.

 

 

Ble alla i astudio Chwythsychu?

EPCE3212AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 16 Ionawr 2025

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr