En

Gweithdy Serameg

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Torfaen

Ffioedd

Ffioedd
£40.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
27 Chwefror 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:00

Hyd

Hyd
10 wythnos

Yn gryno

Ydych chi wedi cael awydd erioed i roi cynnig ar serameg a bod yn greadigol gyda chlai?

Dewch i gael cyflwyniad ar serameg sylfaenol gyda thechnegau adeiladu gyda llaw a gweithio gyda chlai. Mae'r cwrs byr hwn yn rhoi’r cyfle i chi roi cynnig ar greu eich darnau unigryw eich hun.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

... os ydych chi’n chwilio am gwrs ymarferol sy’n darparu cyflwyniad sylfaenol a difyr i serameg greadigol.

Cynnwys y cwrs

Byddwch yn dysgu am:

  • Wahanol briodweddau clai
  • Dulliau gweithio gyda chlai a thechnegau addurno arwynebau
  • Gorffennu darnau llosg

Erbyn diwedd y cwrs, byddwch yn gallu:

  • Archwilio gwead, lliw a gwydredd ar arwyneb y clai yn greadigol, ac i mewn i arwyneb y clai
  • Gwneud darn o waith clai gan ddefnyddio dalenni o glai gweadog
  • Cynhyrchu darn gorffenedig o waith clai wedi'i wasgu a gwaith clai torchog wedi'i addurno â lliw seramig
  • Cyfuno'r broses dorchi â sylfaen o fowld wedi'i wasgu a wneir drwy wthio clai i fowld plastr sydd wedi'i wneud ymlaen llaw.

Mae presenoldeb a phrydlondeb yn hanfodol i fanteisio'n llawn ar y cwrs hwn. Mae diddordeb mewn serameg yn hanfodol. Bydd y rhan fwyaf o'r sesiynau yn ymarferol a bydd disgwyl i chi gymryd rhan ym mhob rhan o'r sesiwn.

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, mae diddordeb yn y pwnc yn ddigon. Nid oes angen unrhyw wybodaeth flaenorol am grochenwaith, ac mae'r cwrs hwn yn ddelfrydol i ddechreuwyr crochenwaith neu'r rheiny sydd â dealltwriaeth sylfaenol o brosesau serameg.

Dylech fod yn gallu dilyn cyfarwyddiadau syml yn ysgrifenedig ac ar lafar i ddeall arddangosiadau, taflenni a gwybodaeth iechyd a diogelwch.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae cost y rhan fwyaf o ddeunyddiau serameg wedi'i chynnwys yn ffi'r cwrs. Bydd unrhyw gostau ychwanegol yn cael eu hegluro gan diwtor eich cwrs. Efallai yr hoffech ddod â llyfr ysgrifennu a phensil i ysgrifennu nodiadau a braslunio syniadau.

Ble alla i astudio Gweithdy Serameg?

PPCE3193JS
Parth Dysgu Torfaen
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 27 Chwefror 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr