Gwallt i Fyny
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
I'w gadarnhau
Dyddiad Cychwyn
15 Ionawr 2025
Dydd Mercher
Amser Dechrau
13:30
Amser Gorffen
16:30
Hyd
8 wythnos
Yn gryno
Os oes gennych ddiddordeb mewn trin gwallt, yna mae'r cwrs hwn yn rhoi'r cyfle perffaith i chi ddatblygu hyder a sgiliau mewn technegau steilio gwallt i fyny ar gyfer priodasau, dathliadau gadael ysgol ac achlysuron arbennig.Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sy'n dymuno gweithio yn y diwydiant trin gwallt.Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs hwn yn canolbwyntio ar steiliau gwallt i fyny clasurol, a byddwch yn dysgu o leiaf pum steil a all gynnwys rholiau, clymau a byns gwallt. Mae'r cwrs hwn yn cynnwys:
- Arddangos gwahanol dechnegau, gan gynnwys rholiau, clymau a byns gwallt
- Cymhwyso addurniadau gwallt
Dadansoddiad gwallt a chroen pen - Technegau ymgynghori a gwrtharwyddion
- Iechyd a diogelwch
Bydd angen i chi fod yn hunan-gymhellol, gweithgar, cyfeillgar ac yn meddu ar lefel uchel o gyflwyniad personol, a bod yn ymroddedig i bresenoldeb llawn a phrydlondeb i'r holl sesiynau. Byddwch yn gweithio ar fodelau pen i greu eich gwallt priodasol clasurol a gwallt ar gyfer digwyddiaddau - fodd bynnag, mae'n bosibl eich bod yn dymuno gweithio ar gleientiaid go iawn yn amgylchedd masnachol y coleg.
Byddwch yn cael asesiad anffurfiol ac adborth ar lafar gan eich tiwtor yn y dosbarth, ac ar ôl cwblhau'r cwrs gallech fynd ymlaen i gyrsiau byrion heb gymhwyster neu ddilyn cwrs cymhwyster ffurfiol mewn trin gwallt a/neu therapi harddwch.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol, mae diddordeb yn y pwnc yn ddigon.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd angen i chi brynu'r offer ar gyfer steiliau gwallt i fyny, sydd ar gyfartaledd yn costio oddeutu £25.00 a gellir eu prynu yn eich sesiwn gyntaf yn y coleg. I greu mwy o steiliau unigol, efallai yr hoffech brynu rhagor o eitemau a dod â nhw gyda chi i'r sesiwn.
EPCE3136AA
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 15 Ionawr 2025
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr