YMCA Tystysgrif Ddwys mewn Hyfforddi Ffitrwydd – Cwrs Ymarferol i Hyfforddwyr Campfa Lefel 2
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden
Lefel
2
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Ffioedd
AM DDIM
Dyddiad Cychwyn
01 Hydref 2024
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
15:00
Amser Gorffen
21:00
Hyd
34 wythnos
Yn gryno
Ydych eisiau dilyn gyrfa fel hyfforddwr ffitrwydd? Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r dechrau perffaith ichi, yn addysgu'r sgiliau a gwybodaeth theori ac ymarferol ichi ddod yn hyfforddwr cymwys.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sydd eisiau dod yn hyfforddwr ffitrwydd cymwys yn y sector preifat (campfa) neu gyhoeddus (awdurdod lleol).
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â llu o fodiwlau, gan gynnwys:
- Anatomeg a Ffisioleg (arholiad)
- Iechyd, Diogelwch a Lles mewn Amgylchedd Ffitrwydd (gorfodol)
- Egwyddorion Ymarfer Corff, Ffitrwydd ac Iechyd (arholiad)
- Gwybod sut i gefnogi cleientiaid sy'n cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol (gorfodol)
- Cynllunio ac arwain ymarfer corff mewn campfa (ymarferol)
Bydd angen ichi fod yn hunan-gymhellol, gweithgar, prydlon ac ymrwymedig, yn frwd dros ddod yn hyfforddwr ffitrwydd cymwys ac yn benderfynol o lwyddo'r asesiadau ymarferol ac arholiadau theori, ynghyd ag ennill profiad ymarferol gwirfoddol mewn campfa ffitrwydd. Bydd angen ichi hefyd werthfawrogi bod y cwrs yn gofyn ichi ymrwymo i bresenoldeb a'r llwyth gwaith.
Byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio cyfuniad o arholiadau, unedau gorfodol a gwaith campfa, cyn eich dyfarnu â Thystysgrif Gwobr YCMA Lefel 2 mewn Hyfforddi Ffitrwydd (campfa). Yn dilyn y cwrs, gallwch ddod o hyd i waith mewn campfa ffitrwydd breifat neu gyhoeddus, neu symud ymlaen at Ddiploma Gwobr YMCA Lefel 3 mewn Hyfforddi Personol (yn ddibynnol ar brofiad).
Gofynion Mynediad
Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, bydd angen ichi fod â phrofiad o ddefnyddio offer cardiofasgwlaidd a phwysau rhydd a chlwm o fewn amgylchedd y gampfa, a gwybodaeth sylfaenol o anatomi a ffisioleg.
Gwybodaeth Ychwanegol
Wedi ichi gofrestru, byddwch yn derbyn llyfr YMCA ar feysydd yr arholiad, a byddwch angen ei astudio cyn dechrau'r cwrs.
ECCE2126AC
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 01 Hydref 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr