En

YMCA Tystysgrif Ddwys mewn Hyfforddi Ffitrwydd – Cwrs Ymarferol i Hyfforddwyr Campfa Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Chwaraeon, Ffitrwydd a Hamdden

Lefel

Lefel
2

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Ffioedd

Ffioedd
AM DDIM

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
01 Hydref 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
15:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
21:00

Hyd

Hyd
34 wythnos

Yn gryno

Ydych eisiau dilyn gyrfa fel hyfforddwr ffitrwydd? Bydd y cwrs hwn yn rhoi'r dechrau perffaith ichi, yn addysgu'r sgiliau a gwybodaeth theori ac ymarferol ichi ddod yn hyfforddwr cymwys.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...unrhyw un sydd eisiau dod yn hyfforddwr ffitrwydd cymwys yn y sector preifat (campfa) neu gyhoeddus (awdurdod lleol).

Cynnwys y cwrs

Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â llu o fodiwlau, gan gynnwys:

  • Anatomeg a Ffisioleg (arholiad)
  • Iechyd, Diogelwch a Lles mewn Amgylchedd Ffitrwydd (gorfodol)
  • Egwyddorion Ymarfer Corff, Ffitrwydd ac Iechyd (arholiad)
  • Gwybod sut i gefnogi cleientiaid sy'n cymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol (gorfodol)
  • Cynllunio ac arwain ymarfer corff mewn campfa (ymarferol)

Bydd angen ichi fod yn hunan-gymhellol, gweithgar, prydlon ac ymrwymedig, yn frwd dros ddod yn hyfforddwr ffitrwydd cymwys ac yn benderfynol o lwyddo'r asesiadau ymarferol ac arholiadau theori, ynghyd ag ennill profiad ymarferol gwirfoddol mewn campfa ffitrwydd. Bydd angen ichi hefyd werthfawrogi bod y cwrs yn gofyn ichi ymrwymo i bresenoldeb a'r llwyth gwaith.

 

Byddwch yn cael eich asesu gan ddefnyddio cyfuniad o arholiadau, unedau gorfodol a gwaith campfa, cyn eich dyfarnu â Thystysgrif Gwobr YCMA Lefel 2 mewn Hyfforddi Ffitrwydd (campfa). Yn dilyn y cwrs, gallwch ddod o hyd i waith mewn campfa ffitrwydd breifat neu gyhoeddus, neu symud ymlaen at Ddiploma Gwobr YMCA Lefel 3 mewn Hyfforddi Personol (yn ddibynnol ar brofiad).

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol. Fodd bynnag, bydd angen ichi fod â phrofiad o ddefnyddio offer cardiofasgwlaidd a phwysau rhydd a chlwm o fewn amgylchedd y gampfa, a gwybodaeth sylfaenol o anatomi a ffisioleg.

Gwybodaeth Ychwanegol

Wedi ichi gofrestru, byddwch yn derbyn llyfr YMCA ar feysydd yr arholiad, a byddwch angen ei astudio cyn dechrau'r cwrs.

Ble alla i astudio YMCA Tystysgrif Ddwys mewn Hyfforddi Ffitrwydd – Cwrs Ymarferol i Hyfforddwyr Campfa Lefel 2?

ECCE2126AC
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 01 Hydref 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr