En

City & Guilds Tystysgrif NVQ mewn Gwasanaethau Lletygarwch Lefel 1

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Arlwyaeth a Lletygarwch

Lefel

Lefel
1

Dull Astudio
Dull Astudio
Llawn Amser
Lleoliad

Lleoliad
Campws Crosskeys

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
03 Medi 2024

Hyd

Hyd
1 flwyddyn

Gofynion Mynediad

Gofynion Mynediad

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol.

Yn gryno

Byddwch yn gweithio yng ngheginau a bwytai'r coleg ac yn cael eich hyfforddi at safon diwydiant, yn paratoi prydau ac yn gweini ar y cyhoedd yn ddyddiol

Dyma'r cwrs i chi os...

... Rydych yn gweithio'n dda dan bwysau
... Rydych yn ffynnu mewn amgylchedd lle mae plesio'r cwsmer yn flaenoriaeth
... Mae gennych ddiddordeb brwd mewn lletygarwch

Beth fyddaf yn ei wneud?

Mae'r diwydiant lletygarwch ac arlwyo yn ddiwydiant sy'n tyfu'n gyflym ac yn yrfa heriol, ond hynod gwerth chweil.

Mae ein tiwtoriaid i gyd yn gymwys ac yn brofiadol tu hwnt yn eu maes, a byddant yn cynnig y sgiliau sydd eu hangen arnoch chi er mwyn datblygu i gwrs Coginio Proffesiynol Lefel 2.

Mae'r cwrs yn mynd i'r afael â'r holl gyfrifoldebau sylfaenol, o gynnal gweithle diogel i baratoi a gweini bwyd a diod.

Mae'r unedau rydym yn mynd i'r afael â nhw yn cynnwys:

  • Cynnal amgylchedd gweithio diogel a hylan
  • Cyfrannu at weithio fel tîm yn effeithiol
  • Cynnal diogelwch bwyd wrth storio, paratoi a choginio bwyd
  • Paratoi llysiau
  • Coginio llysiau
  • Paratoi a choginio cig a dofednod
  • Paratoi a choginio pasta
  • Paratoi a choginio reis
  • Coginio a gorffen cynnyrch bara a toes syml

Byddwch yn cael eich asesu drwy aseiniadau ymarferol ac ysgrifenedig, portffolios, cyflwyniadau ac arddangosiadau, a byddwch yn ennill:

Tystysgrif NVQ 1 mewn Paratoi a Choginio Bwyd a Thystysgrif NVQ 1 mewn Gwasanaeth Bwyd a Diod, yn ogystal â:

Beth a ddisgwylir ohonof i?

Nid oes gofynion mynediad ffurfiol ar gyfer y cwrs, ond mae'n rhaid ichi ddangos brwdfrydedd am y diwydiant lletygarwch ac arlwyo. Byddwch angen bod yn berson sy'n gallu cymell ei hun, gweithio'n galed, yn rhifog ac â phersonoliaeth gyfeillgar. Mae presenoldeb a phrydlondeb ym mhob sesiwn yn un o brif ofynion y cwrs.

Beth sy'n digwydd nesaf?

Diploma Level 1 mewn Coginio Proffesiynol, NVQs yn y Gweithle yn y meysydd coginio a gwasanaeth bwyd a diod.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch angen prynu gwisg cogydd a gwisg y bwyty ynghyd ag offer/llyfr a manion a fydd â chost o tua £290.00.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio City & Guilds Tystysgrif NVQ mewn Gwasanaethau Lletygarwch Lefel 1?

CFCE3112AA
Campws Crosskeys
Llawn Amser
Dyddiad Cychwyn: 03 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr