En

Adobe Photoshop

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Celf a Dylunio, y Cyfryngau, Ffotograffiaeth

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
£40.00

Gall gostyngiadau fod ar gael
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
09 Ebrill 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mawrth
Amser Dechrau

Amser Dechrau
18:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
20:00

Hyd

Hyd
10 wythnos

Yn gryno

Dewch i ddysgu sut i ddefnyddio Adobe Photoshop a’i lawer o swyddogaethau er mwyn creu cynnwys cyffrous i’w ddefnyddio ar wefannau, y cyfryngau cymdeithasol a llawer mwy.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...pawb - Nid yw Photoshop ar gyfer ffotograffwyr yn unig!

...unrhyw un sydd â diddordeb mewn creu eu lluniau eu hun o’r newydd ac addasu ffotograffau

...unrhyw un sydd eisiau cael gwybod beth yw Photoshop a sut i’w ddefnyddio

Cynnwys y cwrs

Mae sgiliau Photoshop yn gynyddol ddefnyddiol mewn amrywiaeth o swyddi, a bydd y cwrs hwn yn sicrhau eich bod yn gallu golygu ac addasu ffotograffau yn effeithiol, a chreu delweddau deniadol eich hun gartref neu yn y gwaith. Maen nhw’n sgiliau defnyddiol os ydych yn bwriadu gwella eich CV. 

Bydd pob sesiwn 2 awr yn cyflwyno amrywiaeth o nodweddion Photoshop a’r technegau i’w defnyddio. Yna bydd tasg yn y dosbarth gan ddefnyddio’r dechneg hon, er mwyn cael deilliant ymarferol gyda chymorth gan diwtoriaid unigol.

Bydd pob delwedd yn cael ei chyflenwi i’w defnyddio yn y dosbarth, ond fe fyddwch chi’n cael eich annog i ddod â’ch lluniau eich hun hefyd. Argymhellir eich bod yn dod â ffon USB neu yriant caled symudol i arbed eich delweddau gorffenedig a mynd â nhw gartref. 

Gall y cwrs hwn gynnwys

  • Cyflwyniad i ryngwyneb Adobe Photoshop
  • Fformatau ffeiliau lluniau
  • Y pecyn cymorth
  • Archwilio’r oriel hidlwyr
  • Brwshys a sut i greu un eich hun
  • Camau Gweithredu a Dethol
  • Cywiro a mireinio delweddau
  • Gweithio gyda haenau a masgiau
  • Testun
  • Arbed i’w ddefnyddio ar-lein
  • Animeiddiadau cyflym
  • Torri, newid maint a chopïo

Does dim asesiad ffurfiol yn rhan o’r cwrs.

Gofynion Mynediad

Bydd disgwyl i chi gael gwybodaeth sylfaenol o gyfrifiaduron er mwyn cofrestru ar gyfer y cwrs.

Gwybodaeth Ychwanegol

Does dim angen i chi fod ag unrhyw wybodaeth flaenorol o Adobe Photoshop gan fod y cwrs 10 wythnos hwn yn dechrau o’r dechrau. Erbyn diwedd y cwrs, bydd gennych ddealltwriaeth dda o dechnegau a phrosesau Photoshop. 

Ble alla i astudio Adobe Photoshop?

NCCE3061AE
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 09 Ebrill 2024

Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr