Sgiliau Llythrennedd (Cyn-TGAU Saesneg)

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
TGAU
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Dyddiad Cychwyn
16 Ionawr 2023
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
16:30
Amser Gorffen
18:30
Hyd
20 wythnos
Yn gryno
Mae hwn yn gwrs a fydd yn eich helpu i ddeall y sgiliau hanfodol sydd eu hangen i ennill cymhwyster TGAU Saesneg Iaith, CBAC.
Bydd y cwrs yn eich paratoi ar gyfer TGAU Saesneg Iaith, os dymunwch ei gwblhau yn y dyfodol.
Bydd y cwrs hwn yn ymdrin â sgiliau darllen, ysgrifennu a llafaredd er mwyn sicrhau eich bod yn deall sut y bydd pob sgil yn cael ei haddysgu yn y cwrs TGAU, yn ogystal â rhoi profiad a gwybodaeth i chi yn y meysydd hyn.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
... y rhai sy'n ystyried astudio TGAU Saesneg Iaith yn y dyfodol.
… unrhyw un sydd eisiau deall beth fydd TGAU Saesneg Iaith yn ei olygu os ydyn nhw am ei astudio.
… pawb sydd yn awyddus i ddatblygu eu sgiliau craidd llythrennedd i'w defnyddio mewn unrhyw swydd neu faes astudio.
Cynnwys y cwrs
Yn ystod y cwrs hwn byddwch yn gwella eich sgiliau yn y meysydd canlynol: darllen, ysgrifennu, siarad a gwrando.
Bydd y cwrs yn cynnwys y cydrannau canlynol:
- Datblygu eich Darllen: bydd yr uned hon yn cynnwys nifer o adnoddau darllen a fydd yn cael eu defnyddio i ddatblygu’r sgiliau allweddol sydd eu hangen mewn bywyd bob dydd megis deall, crynhoi, dod i gasgliad, dadansoddi a chymharu.
- Datblygu eich Ysgrifennu: bydd yr uned hon yn eich cefnogi i ddeall y gwahanol fathau o destunau y bydd angen i chi eu hysgrifennu yn y dyfodol. Byddwn yn archwilio ysgrifennu ar gyfer y gynulleidfa a’r pwrpas cywir, yn ogystal ag adeiladu sgiliau llythrennedd trwy sillafu, atalnodi a gramadeg.
- Datblygu eich sgiliau Siarad a Gwrando: bydd yr uned hon yn eich helpu i wella eich llafaredd trwy amrywiaeth o weithgareddau. Byddwch yn cymryd rhan mewn trafodaethau grwp, ac yn deall sut i adeiladu a datblygu ar eich dadleuon, wrth synhwyro sut i ymateb i eraill. Byddwch hefyd yn cael eich cefnogi i roi cyflwyniadau effeithiol a strwythuredig.
Gofynion Mynediad
Er mwyn eich ystyried ar gyfer y cwrs hwn mae angen i chi fod â diddordeb brwd mewn Iaith Saesneg, gydag awydd i gwblhau'r cymhwyster yn y dyfodol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Ar ôl cwblhau'r cwrs hwn, gallwch wneud cais i astudio TGAU Saesneg Iaith yn llawn amser yn y coleg.
Fodd bynnag, prif ddeilliannau a phrif bwrpas y cwrs hwn fydd datblygu sgiliau allweddol TGAU Saesneg Iaith, a’ch dealltwriaeth o sut i’w defnyddio yn eich bywyd bob dydd.
CECE2976AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 16 Ionawr 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr