En

Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO)

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Addysg

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
20 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Iau

Yn gryno

Mae dyfarniadau ffurfiol yn dod yn gynyddol bwysig ar gyfer y rheiny sy'n dechrau yn y sector addysg yng Nghymru. Bydd y cyrsiau hyblyg hyn yn rhoi cymhwyster cydnabyddedig i chi i weithio yn y sector hyfforddi ac addysg ôl-orfodol (addysg i oedolion).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...ydych yn gweithio fel hyfforddwr eisoes ac eisiau ennill cymhwyster ffurfiol

...ydych eisiau addysgu eraill a rhannu eich arbenigedd mewn pwnc penodol

...ydych eisiau gweithio ym maes addysg i oedolion, nid cynradd nac uwchradd

Cynnwys y cwrs

Os nad ydych wedi cwblhau gradd eisoes, byddwch yn astudio'r llwybr tystysgrif.

Os ydych wedi graddio, byddwch yn dilyn y llwybr tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg.

 

Byddwch yn dysgu am y broses gyfan o baratoi, darparu a gwerthuso gwersi, o ysgrifennu cynllun gwers i ddulliau asesu. Byddwch hefyd yn cael cyfle i rannu arfer da ac i ddatblygu eich sgiliau addysgu.

 

 

Asesiad

 

Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus, drwy gyfuniad o aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau. Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr yn cael eu harsylwi'n addysgu ar o leiaf pedwar achlysur gwahanol bob blwyddyn. Nid oes arholiadau ffurfiol.

Gofynion Mynediad

Byddwch angen cymhwyster Lefel 3 yn y pwnc yr hoffech ei addysgu. Ar gyfer Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau lefel israddedig o leiaf yn y pwnc y maent eisiau ei addysgu.

 

Rhaid i bob ymgeisydd fod mewn, neu sicrhau, lleoliad addysgu/hyfforddi ar gyfer pob blwyddyn astudio; mae tystiolaeth o 50 awr o addysgu a 20 awr o arsylwi yn ofynnol.

 

Fel rhan o'r broses gyfweld, bydd disgwyl i chi roi cyflwyniad pum munud o hyd.

Gwybodaeth Ychwanegol

Gallwch fynd ymlaen i astudio MA mewn Arwain a Rheoli (AHO) neu (AB), neu gyrsiau/llwybrau cysylltiedig â graddau MA addysg eraill.

 

Mae cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn eich gwneud yn gymwys i addysgu mewn addysg broffesiynol orfodol yn eich pwnc dewisol.

 

 

Byddwch yn mynd i wersi yn y coleg yn rhan-amser yn ogystal ag addysgu mewn lleoliad addysg ôl-orfodol addas. Mae hyn yn cynnwys rhwng 150 a 200 awr o addysgu yn ystod bob blwyddyn y cwrs.

 

 

Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.

 

DBS (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) £57.20. Gorfodol Y (oni bai bod y dysgwr yn meddu ar un yn barod).

 

Nid yw'r cwrs hwn yn berthnasol ar gyfer addysgu o fewn y sector cynradd neu uwchradd, ac nid yw'n rhoi Statws Athro/Athrawes Cymwys (SAC) wedi i chi ei orffen.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Tystysgrif Raddedig Broffesiynol mewn Addysg (TAR) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (AHO)?

EPCE2865AB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 20 Medi 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr