VTCT Dyfarniad mewn Colur Theatrig ac i'r Cyfryngau Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Trin Gwallt a Therapi Harddwch
Lefel
2
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
£180.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
05 Medi 2023
Dydd Mawrth
Amser Dechrau
18:00
Amser Gorffen
21:00
Hyd
14 wythnos
Yn gryno
Os hoffech weithio fel arlunydd colur yn y diwydiannau creadigol, bydd y cwrs hwn yn eich addysgu chi sut i ddarparu gwasanaethau colur ar gyfer amryw o achlysuron yn cynnwys colur dydd, nos ac achlysuron arbennig i wahanol grwpiau oedran, gan weithio gydag amryw o fathau a chyflyrau croen.
Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
...unrhyw un sydd eisiau gweithio fel arlunydd colur yn niwydiant y celfyddydau, creadigol a chyfryngau.
Cynnwys y cwrs
Mae'r cwrs hwn yn ymdrin â rhoi ystod eang o gynnyrch colur i wahanol donau croen a grwpiau oedran, yn ogystal â phynciau yn cynnwys arferion gweithio diogel a glân, ymgynghori ac ôl-ofal ac anatomi a ffisioleg.
Ar ôl y cwrs hwn gallech fynd ymlaen i gymhwyster VTCT Lefel 2 mewn Ffasiwn a Cholur Ffotograffig.
Gofynion Mynediad
Nid oes gofyn am unrhyw gymwysterau ffurfiol ond dylech gael diddordeb mewn gweithgareddau artistig a chreadigol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Bydd disgwyl i chi brynu gwisg a chit am oddeutu £190.
CPCE2776AD
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 05 Medi 2023
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr