En

Cskills Awards Cynllun Hyfforddi Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS) Lefel 3

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Adeiladu

Lefel

Lefel
3

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd

Ffioedd

Ffioedd
I'w gadarnhau

Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
11 Tachwedd 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Llun
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:00

Amser Gorffen

Amser Gorffen
17:00

Hyd

Hyd
5 wythnos

Yn gryno

Os ydych yn gyfrifol am iechyd a diogelwch pawb ar y safle, gallai’r cwrs hwn fod yn amhrisiadwy. Mae’n rhoi canllaw i chi ar gyfer sicrhau bod y gwaith i gyd yn cael ei wneud yn unol â chyfraith gyfredol, ac yn edrych ar atebolrwydd dros iechyd, diogelwch a lles y gweithwyr ar y safle.

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

…Cael y wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth gyfredol ac arferion gweithio diogel yn niwydiannau amgylchedd adeiledig ac adeiladu

 

…Unrhyw un sydd wedi neu ar fin ymgymryd â chyfrifoldebau goruchwyliol

 

…Deall y cyfrifoldebau cyfreithiol sy’n berthnasol i’ch gweithgareddau gwaith

Cynnwys y cwrs

Mae’r cwrs 5-niwrnod hwn yn cwmpasu’r pynciau canlynol:

  • Deddf Iechyd a Diogelwch yn y Gwaith
  • Rheoliadau Adeiladu (Dylunio a Rheoli) 2015
  • Gosodiad safle
  • Asesiadau risg a datganiadau dull
  • Gweithio ar uchder
  • Sgaffaldiau
  • Trydan  
  • Cloddiadau
  • Dymchwel
  • Gweithio mewn lleoedd cyfyng
  • Newidiadau diweddar mewn arferion gwaith derbyniol

Cewch eich asesu ar eich cyfranogiad trwy gydol y cwrs, ynghyd ag arholiad 25-cwestiwn sy’n cynnwys cwestiynau amlddewis ac atebion ysgrifenedig byr. Ar ôl ei gwblhau’n llwyddiannus, byddwch yn derbyn tystysgrif sy’n ddilys am 5 mlynedd.

Gofynion Mynediad

Nid oes unrhyw ofynion mynediad ffurfiol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Mae'r cwrs hwn hefyd ar gael fel rhan o Gyfrif Dysgu Personol (PLA). Mae PLA yn fenter gan Lywodraeth Cymru sy'n cynnig cyfle i bobl gael mynediad at gyrsiau rhan-amser rhad ac am ddim gyda dysgu hyblyg a chyfleus sy'n cyd-fynd â'u ffordd o fyw bresennol (yn amodol ar gymhwysedd). Os ydych dros 19 oed, yn byw yng Nghymru, mewn cyflogaeth, yn ennill llai na £30,596 y flwyddyn ac yn dymuno gwneud cais am y cwrs hwn fel rhan o’r fenter PLA, defnyddiwch y ddolen isod i wneud cais:

https://www.coleggwent.ac.uk/cy/course/LA0016/citb-site-management-safety-training-scheme-smsts?uioid=504791

Ble alla i astudio Cskills Awards Cynllun Hyfforddi Diogelwch Rheoli Safle (SMSTS) Lefel 3?

NCCE2764AB
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 11 Tachwedd 2024

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr