City & Guilds / CBAC Iechyd a Gofal Cymdeithasol CRAIDD (Oedolion) Lefel 2

Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Iechyd, Gofal a’r Blynyddoedd Cynnar
Lefel
2
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad
Campws Crosskeys
Ffioedd
I'w gadarnhau
Dyddiad Cychwyn
04 Hydref 2024
Dydd Gwener
Amser Dechrau
09:15
Amser Gorffen
16:00
Hyd
30 wythnos
Gofynion Mynediad
Nid oes angen profiad blaenorol ar gyfer y cwrs, dim ond awydd i lwyddo yn y diwydiant gofal.
Yn gryno
Mae’r cwrs yma’n ddelfrydol i rywun sy’n gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu sy’n bwriadu gweithio ynddo, sy’n gallu mynd i’r coleg ddiwrnod yr wythnos i astudio. Dyma gymhwyster newydd sy’n ymdrin â’r syniadau allweddol mewn Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sy’n adlewyrchu’r Fframwaith Sefydlu Cymru Gyfan ar gyfer Iechyd a Gofal Cymdeithasol, sydd bellach yn sail i lawer o’r cymwysterau newydd yn y sector hwn.
Dyma'r cwrs i chi os...
…rywun dros 19 neu’n hyn sy’n gweithio yn y sector Iechyd a Gofal Cymdeithasol neu sy’n bwriadu gweithio ynddo.
…Gweithwyr gofal cartref sydd heb gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru hyd yma, ac sydd angen gwneud hynny erbyn 2021.
…gweithwyr gofal sy’n oedolion sydd heb gofrestru gyda Gofal Cymdeithasol Cymru hyd yma, ac sydd angen gwneud hynny erbyn 2022.
Beth fyddaf yn ei wneud?
Mae’r cwrs yn ymdrin ag amrywiaeth o wybodaeth a dealltwriaeth am iechyd a gofal cymdeithasol, gan gynnwys:
- Egwyddorion a gwerthoedd iechyd a gofal cymdeithasol [oedolion]
- Iechyd a lles [oedolion]
- Ymarfer proffesiynol yn weithiwr iechyd a gofal cymdeithasol
- Diogelu unigolion
- Iechyd a diogelwch mewn iechyd a gofal cymdeithasol
Cewch eich asesu gan gyfuniad o astudiaethau achos a sefydlwyd yn allanol, a chwestiynau aml ddewis. Pan fyddwch chi wedi cwblhau’r cwrs yn llwyddiannus, gallech symud ymlaen i gymhwyster egwyddorion a chyd-destunau Lefel 2 neu 3 neu gymhwyster ymarfer, neu chwilio am waith yn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Beth a ddisgwylir ohonof i?
Nid oes angen profiad blaenorol ar gyfer y cwrs, dim ond awydd i lwyddo yn y diwydiant gofal.
Beth sy'n digwydd nesaf?
Mynd ymlaen i astudio cymhwyster egwyddorion a chyd-destunau lefel 2 neu 3 neu gymhwyster ymarfer.
Chwilio am waith o fewn y sector iechyd a gofal cymdeithasol.
Gwybodaeth Ychwanegol
Nid yw lleoliad gwaith yn hanfodol i’r cwrs yma. Ond byddai’n fanteisiol pe bai gennych un ai leoliad gwirfoddolwr neu brofiad blaenorol o’r sector gofal.
CPCE2252AA
Campws Crosskeys
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 04 Hydref 2024
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr