En

Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (ProCert) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)

Gwybodaeth Allweddol

Subject Area

Maes Pwnc
Addysg

Dull Astudio
Dull Astudio
Rhan Amser (Dydd)
Lleoliad

Lleoliad
Parth Dysgu Blaenau Gwent

Ffioedd

Ffioedd
£2700.00

Eisiau rhannu’r gost dros gyfnod? Cysylltwch â ni i ddysgu am ein cynlluniau talu.
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn

Dyddiad Cychwyn
18 Medi 2024

Dyddiau
Dyddiau
Dydd Mercher
Amser Dechrau

Amser Dechrau
09:30

Amser Gorffen

Amser Gorffen
16:30

Yn gryno

Mae dyfarniadau ffurfiol yn dod yn gynyddol bwysig ar gyfer y rheiny sy'n dechrau yn y sector addysg yng Nghymru. Bydd y cyrsiau hyblyg hyn yn rhoi cymhwyster cydnabyddedig i chi i weithio yn y sector hyfforddi ac addysg ôl-orfodol (addysg i oedolion).

Mae'r cwrs hwn ar gyfer...

...ydych yn gweithio fel hyfforddwr eisoes ac eisiau ennill cymhwyster ffurfiol

...ydych eisiau addysgu eraill a rhannu eich arbenigedd mewn pwnc penodol

...ydych eisiau gweithio ym maes addysg i oedolion, nid cynradd nac uwchradd

Cynnwys y cwrs

Os nad ydych wedi cwblhau gradd eisoes, byddwch yn astudio'r llwybr tystysgrif.

Os ydych wedi graddio, byddwch yn dilyn y llwybr tystysgrif ôl-raddedig mewn addysg.

 

Byddwch yn dysgu am y broses gyfan o baratoi, darparu a gwerthuso gwersi, o ysgrifennu cynllun gwers i ddulliau asesu. Byddwch hefyd yn cael cyfle i rannu arfer da ac i ddatblygu eich sgiliau addysgu.

 

 

Asesiad

 

Byddwch yn cael eich asesu'n barhaus, drwy gyfuniad o aseiniadau ysgrifenedig a chyflwyniadau. Yn ogystal â hyn, bydd myfyrwyr yn cael eu harsylwi'n addysgu ar o leiaf pedwar achlysur gwahanol bob blwyddyn. Nid oes arholiadau ffurfiol.

Gofynion Mynediad

Byddwch angen cymhwyster Lefel 3 yn y pwnc yr hoffech ei addysgu. Ar gyfer Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg, dylai fod gan ymgeiswyr gymwysterau lefel israddedig o leiaf yn y pwnc y maent eisiau ei addysgu.

 

Rhaid i bob ymgeisydd fod mewn, neu sicrhau, lleoliad addysgu/hyfforddi ar gyfer pob blwyddyn astudio; tystiolaeth o 50 awr o addysgu a 20 awr o arsylwi yn ofynnol.

 

Fel rhan o'r broses gyfweld, bydd disgwyl i chi roi cyflwyniad pum munud o hyd.

 

 

Gallwch fynd ymlaen i astudio MA mewn Arwain a Rheoli (AHO) neu (AB), neu gyrsiau/llwybrau cysylltiedig â graddau MA addysg eraill.

 

Mae cwblhau'r cwrs yn llwyddiannus yn eich gwneud yn gymwys i addysgu mewn addysg broffesiynol nad yw'n orfodol yn eich pwnc dewisol.

Gwybodaeth Ychwanegol

Byddwch yn mynd i wersi yn y coleg yn rhan-amser yn ogystal ag addysgu mewn lleoliad addysg ôl-orfodol addas. Mae hyn yn cynnwys rhwng 150 a 200 awr o addysgu yn ystod bob blwyddyn y cwrs.

 

Masnachfreintir y cwrs hwn gan Brifysgol De Cymru.

 

DBS (y Gwasanaeth Datgelu a Gwahardd) £57.20. Gorfodol Y (oni bai bod y dysgwr yn meddu ar un yn barod).

 

Nid yw'r cwrs hwn yn berthnasol ar gyfer addysgu o fewn y sector cynradd neu uwchradd, ac nid yw'n rhoi Statws Athro/Athrawes Cymwys (SAC) wedi i chi ei orffen.

Noder: cynnwys trydydd parti yw hwn, ac mae ar gael yn Saesneg yn unig.

Ble alla i astudio Tystysgrif Broffesiynol mewn Addysg (ProCert) mewn Addysg a Hyfforddiant Ôl-orfodol (PcET)?

EPCE2016TB
Parth Dysgu Blaenau Gwent
Rhan Amser (Dydd)
Dyddiad Cychwyn: 18 Medi 2024

Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.

Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.

Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.

A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?

Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr