NCFE CACHE Cefnogi Addysgu a Dysgu mewn Ysgolion Lefel 3

Gallwch chi ddewis campws arall neu ddyddiad oddi ar y rhestr isod:
Gwybodaeth Allweddol
Maes Pwnc
Addysg
Lefel
3
Rhan Amser (Noswaith)
Lleoliad
Campws Dinas Casnewydd
Ffioedd
£385.00
Noder, mae’r holl ffioedd a hysbysebir yn berthnasol i un flwyddyn yn unig oni nodir yn wahanol yn yr adran gwybodaeth ychwanegol isod
Dyddiad Cychwyn
13 Medi 2023
Dydd Mercher
Amser Dechrau
16:30
Amser Gorffen
20:00
Hyd
Yn gryno
Yn dilyn ymlaen o gymhwyster Lefel 2, mae’r cwrs hwn wedi ei gynllunio i helpu’r rhai mewn ysgol i ddeall pwysigrwydd y gwaith hanfodol y maent yn ei wneud. Bydd disgwyl i chi, fel rhan o’r cwrs, gael profiad ymarferol mewn ysgol yn gweithio gyda’r Cyfnod Sylfaen neu Gyfnodau Allweddol 2-4 am o leiaf un diwrnod yr wythnos, fel gweithiwr neu wirfoddolwr – felly mae’n bwysig i chi drefnu eich lleoliad cyn cofrestru.Mae'r cwrs hwn ar gyfer...
…unrhyw un mewn swydd gymorth mewn ysgol fel cynorthwyydd dysgu neu gynorthwyydd dysgu a chymorth, neu mewn swydd gymorth wirfoddol.Cynnwys y cwrs
Bydd y cwrs hwn yn gyflwyniad i unedau sy’n adlewyrchu pwysigrwydd cefnogi dysgu ac addysgu. Gan gydnabod y gwaith cymorth hanfodol a wneir mewn ysgolion wrth helpu plant i gyrraedd eu potensial, mae’r cwrs hwn yn cynnig cymorth er mwyn symud ymlaen a throsglwyddo ar draws gweithlu plant o fewn ysgolion.Gofynion Mynediad
Bydd angen Tystysgrif Lefel 2 Cefnogi Addysgu a Dysgu Mewn Ysgolion arnoch chi er mwyn ymgymryd â’r cymhwyster hwn. Fodd bynnag os oes gennych chi brofiad sylweddol mewn lleoliad priodol, mae posibilrwydd o symud ymlaen yn uniongyrchol i Lefel 3. Byddwn yn trafod hyn gyda chi yn y cyfweliad.
Gwybodaeth Ychwanegol
Os ydych chi’n gweithio mewn swydd wirfoddol, bydd angen i chi gael gwiriad DBS drwy eich lleoliad.
NCCE0300AA
Campws Dinas Casnewydd
Rhan Amser (Noswaith)
Dyddiad Cychwyn: 13 Medi 2023
Efallai bydd y cwrs hwn ar gael ar ddyddiadau, amseroedd neu gampysau eraill, cliciwch i weld eich opsiynau.
Ar ôl archebu eich lle ar gwrs mae gennych 14 diwrnod i newid eich meddwl a gofyn am ad-daliad llawn. Gallwch ofyn am ad-daliad ar ôl y dyddiad hwn, ond bydd ond yn cael ei ganiatáu os ydych chi’n bodloni meini prawf polisi ffioedd y coleg. fee policy.
Os yw eich cwrs dewisol yn dechrau o fewn 14 diwrnod i chi archebu eich lle, nid yw’r polisi ad-daliad 14 diwrnod yn gymwys, a bydd unrhyw ad-daliad yn destun polisi ffioedd y coleg.
Gall yr holl gyrsiau fod yn agored i newid a’u canslo os tybir nad yw’n bosib eu cynnal.
A oes gennych gwestiynau, neu’n ansicr ai hwn yw’r cwrs addas i chi?
Cysylltwch â’n Tîm Recriwtio Myfyrwyr